Skip to main content

Llwybrau Ôl 16

Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed ac yn pendroni beth i'w wneud nesaf, dyma rai opsiynau efallai yr hoffech chi eu hystyried.

Y Chweched Dosbarth

Ar ôl cwblhau eich arholiadau TGAU, bydd nifer eisiau parhau â'u haddysg yn y chweched dosbarth.  Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr eisiau parhau yn eu hysgol bresennol, a bydd yr ysgol yn rhoi'r arweiniad priodol i chi.

Serch hynny, mae modd i chi ystyried ysgolion eraill er mwyn gweld beth y maen nhw'n ei gynnig drwy glicio ar y dolenni isod.

Os ydych chi eisiau derbyn y cynnig o gludiant am ddim, cofiwch fydd y cludiant yma dim ond ar gael ar gyfer teithio i'r ysgol/coleg agosaf i astudio'ch pynciau dewisol. Gall hyn gynnwys ysgolion yn cydweithio yn lle bod un ysgol yn darparu'r addysg i gyd.

Colegau

Mae ystod eang o gyrsiau gwahanol yn cael eu cynnig yn y coleg, efallai bydd y rhain yn fwy addas i chi. Defnyddiwch y dolenni isod er mwyn gweld beth sy'n cael eu cynnig gan golegau gwahanol.

Os ydych chi eisiau derbyn y cynnig o gludiant am ddim, cofiwch fydd y cludiant yma dim ond ar gael ar gyfer teithio i'r ysgol/coleg agosaf i astudio'ch pynciau dewisol. Gall hyn gynnwys ysgolion yn cydweithio yn lle bod un ysgol yn darparu'r addysg i gyd. 

Coleg Y Cymoedd

Coleg Merthyr

Coleg Penybont

St Davids Sixth Form College

Cludiant

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â gwneud cais am gludiant a sut i deithio i/o eich ysgol neu goleg gan glicio ar y ddolen isod. 

Os ydych chi eisiau derbyn y cynnig o gludiant am ddim, cofiwch fydd y cludiant yma dim ond ar gael ar gyfer teithio i'r ysgol/coleg agosaf i astudio'ch pynciau dewisol. Gall hyn gynnwys ysgolion yn cydweithio yn lle bod un ysgol yn darparu'r addysg i gyd.

Cludiant i'r Ysgol a'r Coleg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Paratoi ar gyfer y gweithle  – GATSBY

Er mwyn cefnogi'r dysgwyr sy'n derbyn addysg ôl 16, mae'n bwysig bod y dysgwyr yma'n cael arweiniad a chefnogaeth briodol wrth baratoi ar gyfer y gweithle.

Mae pob dysgwr sy'n derbyn addysg ôl 16 yn yr ysgol uwchradd neu ysgol bob oed yn Rhondda Cynon Taf yn elwa o'r gefnogaeth sydd ar gael yn rhan o Feincnodau Gyrfaoedd Da Gatsby. Cyfres o ganllawiau sy'n cefnogi ysgolion wrth gyflwyno rhaglenni Profiadau sy'n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith (CWRE) ydy'r Meincnodau.

Daw Meincnodau Gatsby o dan y penawdau canlynol:

  • Rhaglen gyrfaoedd sefydlog
  • Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a'r farchnad lafur
  • Mynd i'r afael ag anghenion pob disgybl
  • Cysylltu dysgu'r cwricwlwm â gyrfaoedd
  • Profiadau â chyflogwyr a gweithwyr
  • Profiadau yn y gweithle
  • Profiadau ag Addysg Bellach ac Uwch. 
  • Cyfarwyddyd personol

Mae ysgolion yn derbyn cefnogaeth wrth gyflawni Meincnodau Gatsby ac yn cynnal archwiliad blynyddol.
Mae modd i chi ddod o hyd i gynnwys  Meincnodau Gatsby a'r ymchwil a gafodd ei ddefnyddio i'w creu gan ddilyn y ddolen ganlynol.

Cannlawiau Gyrfa Dda | Addysg | Gatsby

Profiad Gwaith a Swyddi Preswyl

Fel un o'r awdurdodau lleol mwyaf yng Nghymru, mae Cyngor RhCT yn ymdrechu i gefnogi trigolion a disgyblion i dderbyn profiad gwaith o fewn y sefydliad lle bo modd. I wneud cais, defnyddiwch y ddolen isod a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Sylwch – gan fod nifer o wasanaethau'n gweithio o bell, dydyn ni ddim yn gallu sicrhau y bydd lleoliad ar gael yn y maes rydych chi'n ei ddewis. 

Profiad Gwaith | Gwneud Cais ar gyfer Profiad Gwaith

Cynlluniau prentisiaeth a rhaglenni i raddedigion

Mae cynlluniau prentisiaeth a rhaglenni i raddedigion arobryn RhCT  wedi recriwtio dros 300 o unigolion i'r cynllun ers 2012. Mae'r swyddi 2 flynedd yma, sy'n cael eu cynnig mewn meysydd gwasanaeth ym mhob rhan o’r Cyngor, yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ennill cyflog wrth iddynt ddysgu a darparu sylfaen arbennig ar gyfer gyrfa hir a llwyddiannus mewn ystod o ddiwydiannau.

Nod Cyngor Rhondda Cynon Taf ydy recriwtio pobl dalentog a blaengar i'r rhaglenni. Mae pob swydd yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu sgiliau newydd, datblygu'n broffesiynol a chamu i fyd gwaith y sector cyhoeddus.  

Mae'r swyddi'n amrywio bob blwyddyn, felly cadwch lygad ar y wefan i ddarganfod pryd mae'r swyddi'n cael eu hysbysebu ac i  ddarllen adolygiadau o brentisiaid presennol a blaenorol er mwyn cael gwell syniad am yr hyn y gallai Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT ei wneud i chi.

Cynlluniau prentisiaeth a rhaglenni i raddedigion

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru  yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i ddysgwyr sy'n derbyn addysg ôl 16. Cliciwch ar y ddolen er mwyn mynd at wefan Gyrfa Cymru. Fel arall, mae croeso i chi eu ffonio nhw er mwyn trafod y cymorth sydd ei angen arnoch chi ar 08000284844

Mae modd dod o hyd i isadran ar wefan Gyrfa Cymru sy'n benodol ar gyfer addysg ôl 16 yma

Gyrfa Cymru | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)

Darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl 16 Cymru | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)

Rhaglenni Cyflogadwyedd

Dechreuwch y daith tuag at gyflogaeth gyda'r garfan Cymunedau am Waith.

Cymorth gyda Chyflogaeth a Chyflogwyr – Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyngor a chefnogaeth wedi'i deilwra ar gyfer busnesau lleol a’r rheiny sy'n edrych am waith neu sydd eisiau datblygu eu sgiliau ymhellach.

Cymorth gyda Chyflogaeth
Dewch o hyd i gefnogaeth a chyngor wrth ddod o hyd i gyflogaeth, llenwi ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad, hyfforddiant a mwy.

Cymorth i Gyflogwyr
Cymorth a chefnogaeth i gyflogwyr yn cynnwys grantiau busnes, cyllid, Cymorth i Fusnesau a Phobl, Adnoddau Dynol a gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.

Cymorth gyda Chyflogaeth a Chyflogwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Prosiect Golau Gwyrdd  

Mae'r Prosiect Golau Gwyrdd yn rhaglen gymorth sy’n canolbwyntio ar  ddisgyblion blwyddyn 11 sydd angen cymorth ychwanegol wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag addysg ôl 16.
Mae pob ysgol uwchradd yn gallu cynnig lle ar gyfer hyd at 7 disgybl Blwyddyn 11 i'r Prosiect Golau Gwyrdd.
Mae gwaith y Prosiect Golau Gwyrdd yn cynnwys:

- Sesiynau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd gyda chydlynydd Addysg a Hyfforddiant dynodedig
- Cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith
- Ymweliadau â cholegau a darparwyr y chweched dosbarth
- Cefnogaeth a gwybodaeth yn ymwneud â gwneud cais am swydd neu brentisiaeth

Sectorau sy'n tyfu

Os oes diddordeb gyda chi mewn archwilio'r meysydd sy'n cynyddu o ran poblogrwydd cliciwch y ddolen isod i archwilio'r tueddiadau diweddaraf.

Gwybodaeth am y Farchnad Lafur

Cael eich ysbrydoli

Er mwyn i chi gael eich ysbrydoli ac i ddatblygu'ch cynlluniau ar gyfer eich taith ôl 16, efallai yr hoffech chi archwilio sefydliadau sy'n gweithio â phobl ifainc yng Nghymru sy'n gallu eich cefnogi chi i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Cliciwch ar y ddolen i archwilio beth y maen nhw'n ei gynnig a sut y  gallwch chi  ddefnyddio’r  adnoddau. Mae'r isadran yma hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Warant y Person Ifanc yng Nghymru. Mae Gwarant y Person Ifanc yn cynnig cefnogaeth i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.

P'un a oes angen cyngor arnoch i gael lle ar y cwrs iawn yn y coleg, dod i hyd i brentisiaeth, cymorth i ysgrifennu CV neu ddechrau busnes eich hun, mae'r Warant yn gallu estyn llaw er mwyn eich helpu chi i newid eich stori

Gwarant y Person Ifanc | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru)

Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru (princes-trust.org.uk)

Hafan | Busnes Cymru – Syniadau Mawr (llyw.cymru)