Skip to main content

Mae ein dysgwr hynaf bellach yn 102 oed

 
Margaret-Griffiths

Mae ein dysgwr hynaf bellach yn 102 oed - Mae hi'n dilyn dosbarthiadau TG er mwyn ceisio "dal i fyny" ar dechnoleg y collodd hi pan oedd yn athrawes ysgol gynradd.

Dywedodd Margaret Griffiths, o Ynys-hir, Cwm Rhondda, iddi gofrestru yn y dosbarthiadau wythnosol i gadw'i hymennydd yn weithgar.

Dywedodd y cyn-brifathrawes fod pawb yn ei dosbarth o ddysgwyr sy'n oedolion yn ceisio "symud gyda'r oes."

Dywedodd ei bod yn bwriadu "parhau i wneud yr hyn rydw i'n ei wneud cyhyd ag y gallaf".

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 29th Gorffennaf 2024