Skip to main content

Gwybodaeth am y gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn cynnwys tri gwasanaeth integredig. Y rhain yw'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg, y Gwasanaeth Cymorth Dysgu a'r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar.

Mae'r Gwasanaeth Gweinyddol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn tanategu ac yn cefnogi gwaith Carfanau'r Gwasanaethau Mynediad a Chynhwysiant trwy wneud y gwaith gweinyddu ar gyfer pob lleoliad mewn darpariaethau arbenigol, ynghyd â'r gwaith gweinyddu sy'n gysylltiedig â  phrosesau statudol ADY ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac adolygiadau blynyddol.

Mae Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi cymorth i blant sydd o dan oedran ysgol statudol nad ydyn nhw'n mynychu’r ysgol eto, drwy brosesau Fforwm y Blynyddoedd Cynnar. Mae Fforwm y Blynyddoedd Cynnar yn fforwm aml-asiantaeth sy'n darparu pwynt cymorth canolog i blant sydd o bosibl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae prosesau'r Blynyddoedd Cynnar yn sicrhau bod modd i blant fanteisio ar wasanaethau a darpariaeth sy'n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion drwy Fforwm y Blynyddoedd Cynnar a Phanel Cynghori'r Blynyddoedd Cynnar. Mae'r gwasanaeth yma'n ymdrechu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar a'u teuluoedd, ac yn anelu at roi cymorth i ddarparwyr cyn-ysgol, gwarchodwyr plant a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd i ddatblygu diwylliant o ymyrraeth gynnar a chymorth i bawb.

Cysylltiadau i bob un o'r gwasanaethau canlynol:-

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau sydd gyda chi

Sylwch-byddwch yn derbyn ateb o fewn 14 diwrnod gwaith