Skip to main content

Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc er mwyn cefnogi eu datblygiad, lles, gwydnwch, dysgu a chyflawniad. Mae ei ddull gweithredu yn canolbwyntio ar yr unigolyn drwy weithio gydag eraill i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifainc. Mae gwaith y Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn canolbwyntio ar gefnogi sgiliau pobl eraill a'u datblygu

Fel arfer, rhaid i Rieni/Cynhalwyr roi eu caniatâd cyn y bydd modd i'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg weithio gyda phlentyn neu berson ifanc. Weithiau, mae modd i bobl ifainc roi caniatâd drostyn nhw eu hunain. Mae hyn yn dibynnu ar eu hoedran a lefel eu dealltwriaeth.

Mae Seicolegwyr Addysg yn meddu ar y canlynol:

  • Cymwysterau graddedig ac ôl-raddedig arbenigol ym maes rhoi seicoleg ar waith ym myd addysg;
  • Gwybodaeth am systemau ac arfer cyfredol yn y byd addysg yng Nghymru;
  • Dealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA); 
  • Profiad helaeth o gefnogi plant a phobl ifainc;
  • Profiad o wneud gwaith ymchwil mewn perthynas â phlant a phobl ifainc

Mae Seicolegwyr Addysg yn cael:

  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau eu bod nhw'n effro i'r arferion diweddaraf;
  • Goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd.

Mae Cyngor y Gweithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol yn rheoleiddio pob Seicolegydd Addysg er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r safonau proffesiynol uchaf.

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd ag amrywiaeth o anghenion mewn meysydd fel:

  • Dysgu
  • Iaith a chyfathrebu
  • Anghenion synhwyraidd a chorfforol
  • Datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
  • Llesiant
  • Ymddygiad
  • Problemau Iechyd Meddwl

Yn ogystal â hynny, mae Seicolegwyr Addysg hefyd yn ymwneud â grwpiau penodol o blant a phobl ifainc, fel y rheiny sy'n derbyn gofal yr Awdurdod Lleol y rheiny sy'n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol a'r rheiny sy'n cael cymorth gan Garfanau Troseddu Ieuenctid.

Sut mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio?

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau a lleoliadau lle mae pryderon ynglŷn â phlant a phobl ifainc. Maen nhw'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gweithredu gydag unigolion, grwpiau, ysgolion a systemau ehangach fel Awdurdodau Lleol a'r gymuned. Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni, cynhalwyr, teuluoedd a phobl eraill yn bwysig er mwyn sicrhau y caiff dull gweithredu cyfannol ei roi ar waith. Mae Seicolegwyr Addysg yn canolbwyntio ar y plentyn, ac yn ymdrechu i wrando ar lais y plentyn neu'r person ifanc a'i hyrwyddo.<0}

Pa fath o wasanaethau y mae modd i Seicolegwyr Addysg eu cynnig?

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau.

Maen nhw'n defnyddio eu barn a'u dealltwriaeth seicolegol ar gyfer:

Ymgynghori, rhoi cyngor a chynnal asesiadau arbenigol

  • Arsylwi ar Blant a Phobl Ifainc
  • Defnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc er mwyn asesu eu cryfderau, eu gwendidau a'u barn.
  • Awgrymu rhaglenni ymyrraeth a chymorth lle bo hynny'n briodol
  • Trafodaethau gyda'r nod o weithio tuag at ganfod datrysiadau sy'n mynd i'r afael â phryderon;
  • Cyflawni gwaith hanfodol sy'n ymwneud â phrosesau Anghenion Addysgol Arbennig statudol (Cod Ymddygiad Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2004); 
  • Cadeirio a/neu gymryd rhan mewn cyfarfodydd a fforymau amlasiantaeth, yn enwedig y rheiny sy'n ymwneud â phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion cymhleth iawn

Rhoi cymorth i rieni

Mae Seicolegwyr Addysg yn defnyddio dulliau gweithredu gwahanol fel gweithdai i rieni, rhaglenni cymorth i rieni, sesiynau galw heibio i rieni ac ymgynghoriadau dros y ffôn.

Darparu datblygiad proffesiynol a hyfforddiant

Mae Seicolegwyr Addysg yn cynllunio'r hyfforddiant ar amrywiaeth o bynciau ar gyfer athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill, ac yn ei ddarparu

Cefnogi cymunedau pan fydd digwyddiadau arwyddocaol neu drist yn digwydd

Weithiau, bydd digwyddiad trist neu ddigwyddiad arwyddocaol yn digwydd, er enghraifft, marwolaeth annisgwyl disgybl neu aelod o staff. Mae'r Gwasanaethau Seicoleg Addysg yn darparu cymorth sy'n helpu pawb a gaiff eu heffeithio gan hyn.

Gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso a datblygu polisïau ac arferion

Mae Seicolegwyr Addysg yn gwneud gwaith ymchwil sy'n helpu i ddatblygu a llywio arfer addysgol.

Pryd mae Seicolegwyr Addysg yn ymwneud â phlant a phobl ifainc unigol?

Mae'r Cod Ymddygiad Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2004) presennol yn awgrymu y dylai dull ymateb graddol gael ei roi ar waith er mwyn diwallu anghenion addysgol arbennig plant a phobl ifainc. Mae disgwyl i anghenion addysgol arbennig y rhan fwyaf o blant gael eu diwallu drwy arferion priodol mewn lleoliadau addysg yn y brif ffrwd. Cydnabyddir y bydd gan rai plant a phobl ifainc lefelau uwch o angen gan arwain at gynnwys gwasanaethau arbenigol. Mae Seicolegwyr Addysg yn rhan o'r ymateb graddedig hwnnw ac yn aml maen nhw'n ymwneud â phlant a phobl ifainc pan fydd rhieni, gweithwyr proffesiynol ac eraill yn ceisio eu cyngor.

BLYNYDDOEDD CYNNAR - 0-5 OED

Mae'r adran hon yn disgrifio gwaith Seicolegwyr Addysg gyda phlant ifainc iawn.

Pryd dylai'r Seicolegwyr Addysg ymwneud â phlant a phobl ifainc unigol?

Gallen nhw ymwneud â phlant a phobl ifainc unigol yn dilyn ceisiadau gan nifer o wahanol ffynonellau e.e. meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, staff meithrin a gweithwyr proffesiynol eraill. Dylech chi fod wedi trafod unrhyw gais am gynnwys Seicolegwyr Addysgol gyda rhiant/cynhaliwr y plentyn ymlaen llaw.

Gall Seicolegwyr Addysg weithio mewn ystod eang o wahanol leoliadau a allai gynnwys:

  • Cartref y plentyn;
  • Lleoliadau blynyddoedd cynnar (sy'n cael eu cynnal ac sydd ddim yn cael eu cynnal) e.e. meithrinfeydd ysgol, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant, clinigau;
  • Lleoliadau Dechrau'n Deg;

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud o fewn ystod oedran y Blynyddoedd Cynnar?

Gwaith Unigol

  • Ymyriadau fel therapïau chwarae
  • Cefnogi trosglwyddo o’r cartref i leoliadau cyn ysgol<
  • Cydweithio â gweithwyr proffesiynol Blynyddoedd Cynnar

Gwaith Grŵp

  • Cefnogi rhieni a darparu gwybodaeth am ystod eang o raglenni rhianta
  • Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar
  • Gweithio gyda grwpiau o blant gan ddefnyddio ymyriadau sy'n addas i blant ifainc

Systemau Ehangach

  • Goruchwylio a rheoli timau eraill
  • Cyfraniad at ddatblygiad Polisïau Blynyddoedd Cynnar

CYNRADD 5-11 OED

Mae'r adran hon yn disgrifio gwaith Seicolegwyr Addysg gyda phlant oedran cynradd.

Fel arfer mae gan bob ysgol gynradd Seicolegydd Addysg sy'n ymweld â'r ysgol yn rheolaidd.

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gyda phlant oedran cynradd mewn:

  • Ysgolion
  • Cartrefi, gan gynnwys cartrefi maeth a chartrefi gofal
  • Lleoliadau y tu allan i'r sir
  • Darpariaeth arbenigol
  • Canolfannau amlasiantaeth - canolfan lle mae nifer o wahanol weithwyr proffesiynol wedi'u lleoli sy'n gallu gweithio'n agos gyda'i gilydd.

Beth mae Seicolegwyr Addysgol yn ei wneud o fewn yr ystod oedran cynradd?

  • Ymgynghori - pan mae materion yn cael eu trafod er mwyn cael gwybodaeth bellach a darlun llawnach
  • Asesu - casglu gwybodaeth fanwl am gryfderau a gwendidau'r plentyn/ person ifanc. Mae'n bosibl defnyddio nifer o dechnegau gan gynnwys profion ac arsylwadau.
  • Ymyriad - rhaglenni wedi'u dyfeisio er mwyn helpu'r plentyn/person ifanc. 
  • Hyfforddiant - i helpu athrawon, staff cymorth ac eraill i wella eu harferion
  • Ymchwil - Gwerthuso'r hyn sydd wedi digwydd i weld pa mor effeithiol y mae wedi bod

OEDRAN UWCHRADD 11-18 OED

rosolwg cyffredinol

Mae'r adran hon yn disgrifio gwaith Seicolegwyr Addysg gyda disgyblion oedran uwchradd. Fel arfer mae gan bob ysgol uwchradd Seicolegydd Addysg sy'n ymweld â'r ysgol yn rheolaidd.

Efallai y bydd eich Seicolegydd Addysg hefyd yn gweithio yn y mannau canlynol:

  • Ysgolion a Cholegau
  • Cartrefi, gan gynnwys cartrefi maeth a chartrefi gofal
  • Lleoliadau y tu allan i'r sir
  • Darpariaeth arbenigol
  • Canolfannau ieuenctid a chymunedol
  • Canolfannau amlasiantaeth.

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud o fewn yr ystod oedran Uwchradd?<

I lawer o blant a phobl ifainc mae blynyddoedd eu harddegau ymhlith y rhai mwyaf heriol. Mae rhai o'r materion allweddol y mae Seicolegwyr Addysg yn cael eu hymgynghori ynglŷn â nhw'n rheolaidd yn cynnwys:

  • Perthynas
  • Pwysau cyfoedion a bwlio
  • Llencyndod a dod i aeddfedrwydd
  • Lles a gwytnwch
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Defnydd a chamddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol
  • Rhywioldeb/hunaniaeth
  • Pryderon iechyd meddwl
  • Ymddygiad troseddol
  • Dysgu a chyflawniad.

Mae Seicolegwyr Addysg yn defnyddio'r dulliau canlynol yn rheolaidd:

  • Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Theori Adeiladu Personol
  • Ymyriad sy'n canolbwyntio ar atebion megis cylchoedd ateb
  • Therapi Byr yn canolbwyntio ar atebion
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar
  • Gwaith yn ymwneud â digwyddiadau critigol.

STOD OEDRAN ÔL-16

Trosolwg cyffredinol

Mae'r adran hon yn disgrifio gwaith Seicolegwyr Addysg gyda phlant a phobl ifainc 16 oed a hŷn.

Mae Seicolegwyr Addysg yr Awdurdod Lleol yn rhoi gwasanaeth ôl-16 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn unig. Gall lleoliadau ôl-16 fel colegau a phrifysgolion ymgysylltu â gwasanaethau Seicolegwyr Addysg eu hunain

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud o fewn yr ystod oedran Ôl-16?

Gall Person ifanc sy'n cychwyn ar ei fywyd fel oedolyn wynebu llawer o heriau. Mae rhai o'r materion allweddol y mae Seicolegwyr Addysg yn cael eu hymgynghori'n rheolaidd amdanyn nhw yn y grŵp oedran Ôl-16 yn cynnwys:

  • Trefniadau Pontio, e.e. o'r ysgol i'r coleg
  • Asesiadau / Cyngor / Canllawiau ynghylch: lleoliadau ôl-16 arbenigol.
  • Datblygu Gyrfa
  • Cynllunio bywyd / cefnogaeth
  • Hunaniaeth rywiol
  • Llencyndod a dod i aeddfedrwydd
  • Perthnasau 
  • Beichiogrwydd
  • Pwysau cyfoedion a bwlio
  • Lles a gwytnwch
  • Pryderon iechyd meddwl
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Hunan-niwed a hunanladdiad
  • Defnydd a chamddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol
  • Troseddau Ieuenctid

Efallai y bydd Seicolegwyr Addysg yn defnyddio'r dulliau canlynol ar gyfer pobl ifainc dros 16 oed:

  • Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Theori Adeiladu Personol
  • Ymyriad sy'n canolbwyntio ar atebion megis cylchoedd ateb
  • Therapi Byr yn canolbwyntio ar atebion
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar

YR AWDURDOD LLEOL A'R GYMUNED

Trosolwg cyffredinol

Mae'r adran hon yn disgrifio gwaith y Seicolegydd Addysg ar lefel yr Awdurdod Lleol a'r gymuned.

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud o fewn yr ALl a'r gymuned?

Awdurdod Lleol

Yn aml, mae gofyn i Seicolegwyr Addysg gyfrannu at y canlynol:

  • Paneli Cymedroli a phaneli eraill sy'n gwneud penderfyniadau.
  • Cynlluniau corfforaethol.
  • Adrodd i Bwyllgorau Craffu pan fo angen.
  • Ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu polisi a darpariaeth AAA ar lefel strategol.
  • Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau statudol gan gynnwys:
  • Llenwi ffurflenni ar gyfer lleoliadau.
  • Rhoi cyngor statudol.
  • Mynychu rhai adolygiadau blynyddol.
  • Datblygu meini prawf ar gyfer asesu statudol a gwneud datganiadau.
  • Pennu meini prawf mynediad ac ymadael ar gyfer darpariaeth.
  • Darparu tystiolaeth ar gyfer cyfryngu a thribiwnlysoedd.
  • Cynghori ar rai derbyniadau ysgol.
  • Cynghori ar faterion presenoldeb ac ymddygiad ar lefel strategol.
  • Rheoli symudiadau o leoliad ysgol ar gyfer plant a phobl ifainc.
  • Ymgymryd â gwaith wedi'i dargedu gydag ysgolion sydd wedi'u nodi fel rhai sydd angen cefnogaeth.
  • Darparu hyfforddiant llythrennedd a rhifedd, e.e. ar gyfer cydlynwyr AAA.
  • Rheoli a datblygu gwasanaethau cwnsela ar gyfer pobl ifainc.
  • Cynrychioli'r Awdurdod Lleol mewn gwahanol fforymau.
  • Hyfforddi ysgolion i sefydlu ymyriadau newydd, e.e. Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu, Chwarae Cadarnhaol, Cymorth Cadarnhaol, Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol.
  • Hyfforddi Athrawon sydd Newydd Gymhwyso a Chydlynwyr AAA; Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.
  • Gweithio gyda Chynghorwyr Herio ac eraill i hyrwyddo gwella ysgolion.
  • Datblygiad polisi ac ymarfer mewn ystod eang o feysydd, e.e. cam-drin domestig, strategaethau ysgolion a chanllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion.
  • Goruchwylio seicolegwyr cynorthwyol sy'n gweithio o fewn yr Awdurdod Lleol.

Fel rhan o'u gwaith o fewn yr Awdurdod Lleol, mae Seicolegwyr Addysg yn cydweithio'n agos ag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol.

Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelu.

  • Gweithio gyda theuluoedd i gefnogi plant a phobl ifainc ag anghenion cymhleth.
  • Cefnogi timau gwaith cymdeithasol a'u gwaith achos yn ôl yr angen.
  • Gwaith Diogelu gan gynnwys hyfforddiant diogelu.
  • Gweithio gyda'r timau anabledd plant a phobl ifainc.
  • Gweithio i gefnogi plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal.
  • Gweithio gyda gwasanaethau maethu a mabwysiadu i gefnogi plant a phobl ifainc.

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud o fewn y gymuned?

Byrddau Iechyd Lleol

  • Arferion cydweithio â CAMHS.
  • Gwaith yn ymwneud â'r Mesur Iechyd Meddwl.
  • Arferion gweithio ar y cyd sy'n ymwneud ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, Anhwylderau Cyfathrebu, Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig ac Afiechyd Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).
  • Arferion gweithio ar y cyd gyda phartneriaethau rhiant.
  • Arferion gweithio ar y cyd gydag Ymwelwyr Iechyd.

Gwasanaethau yn y Gymuned

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gydag ystod eang o wasanaethau cymunedol ac yn darparu hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori ar eu cyfer. Mae'r gwasanaethau cymunedol yma'n cynnwys:

  • Partneriaethau yn y Trydedd Sector
  • Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf
  • Dechrau'n Deg
  • Barnardos
  • Gwasanaethau Ymyriadau Teuluol
  • Gwybodaeth a chefnogaeth i Rieni/Gwarchodwyr
  • Darparwyr cyn-ysgol
  • Gwasanaethau Heddlu a Chyfiawnder Ieuenctid

Gwasanaethau o dan arweiniad Llywodraeth Cymru

Bydd Seicolegwyr Addysg yn rhoi mewnbwn drwy:

  • Byddai hyn yn cynnwys ymgynghoriadau ynghylch mentrau newydd, llunio polisïau a deddfwriaeth newydd.
  • Cyfrannu at ystod eang o fentrau hyfforddi Llywodraeth Cymru.
  • Chwarae rhan bwysig mewn prosiectau ymyrraeth gynnar, e.e. Dechrau'n Deg, Portage.