Skip to main content

Gwasanaeth Cynnal Dysgu

Rôl y Gwasanaeth:

Bwriad y Gwasanaeth Cynnal Dysgu yw datblygu gallu ysgolion prif ffrwd i gynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyddiannus.

Mae carfan ganolog y Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn darparu cymorth amserol ac effeithiol i ysgolion er mwyn datblygu arfer ar draws yr ysgol neu nodi ac ymateb i anghenion disgyblion unigol. Mae'r cymorth yn cael ei ddarparu drwy fodel darparu gwasanaeth ymatebol a rhaglen gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol.

Mae 4 carfan beripatetig o Athrawon Arbenigol sy'n cael eu harwain gan gydlynydd arbenigol.

  • Gwybyddiaeth a Dysgu 
  • Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu gan gynnwys Awtistiaeth
  • Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad
  • Anghenion Synhwyraidd, Meddygol a Chorfforol

Mae'r gallu gan bob carfan i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae staff cymorth arbenigol, gweithwyr cyfathrebu â phobl fyddar a chynorthwywyr cymorth Braille yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion ag anghenion synhwyraidd mewn ysgolion prif ffrwd er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiad addysgol cadarnhaol a chynhwysol.

Mae yna rôl benodol sy'n canolbwyntio ar waharddiadau disgyblion yn y Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad. 

Er nad yw Saesneg fel iaith ychwanegol yn angen dysgu ychwanegol yn ôl y Cod ADY, mae'r gwasanaeth yn cefnogi disgyblion sy'n newydd i'r Saesneg trwy garfan fach o gynorthwywyr dysgu peripatetig sydd yn rhan o'r Garfan Materion Gwybyddiaeth a Dysgu. 

Mae gan y gwasanaeth gyfrifoldeb ar gyfer Dosbarthiadau Cynnal Dysgu mewn ysgolion prif ffrwd. Mae Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn darparu addysg mewn grwpiau bach i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol sylweddol, lle nad oes modd i ddosbarth prif ffrwd gynnig y ddarpariaeth sydd ei hangen. Mae lleoedd mewn Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn cael eu dyrannu gan banel awdurdod lleol.

Mae Dosbarthiadau Cynnal Dysgu dan oruchwyliaeth y Cydlynwyr Arbenigol ar gyfer pob maes angen mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgol er mwyn sicrhau darpariaeth o safon uchel a bod disgyblion yn gwneud cynnydd o ran eu man cychwyn a'u cyfraddau cynnydd blaenorol.