Skip to main content

Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS)

 

Mae dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) yn ysgolion RhCT yn dod o ystod o gefndiroedd amrywiol ac o amrywiaeth o gyfnodau iaith a llythrennedd.  Mae ganddyn nhw gefndiroedd gwahanol sy'n gallu effeithio ar eu gallu i gael mynediad i gwricwlwm yr ysgol a'n cymuned. Tra bydd rhai disgyblion sy'n newydd-ddyfodiaid, yn dod o ysgol neu wlad lle na ddefnyddir fawr ddim Saesneg, os o gwbl; gall eraill siarad, darllen neu ysgrifennu rhywfaint o Saesneg. Mae’n bosibl bod plant, a aned yn y Deyrnas Unedig, wedi cael cysylltiad cyfyngedig â Saesneg cyn dechrau’r ysgol. Pan fydd disgyblion SIY wedi dod yn rhugl ar lafar, maen nhw'n cael eu disgrifio fel dysgwyr SIY uwch. Mae ganddyn nhw'r sgiliau Saesneg angenrheidiol i weithredu'n effeithiol mewn Saesneg llafar, ond efallai eu bod nhw ddim yn hyddysg mewn defnyddio iaith academaidd.

Mae'r Gwasanaeth Cyflawniad Aml Ethnig yn cefnogi ysgolion Rhondda Cynon Taf i gyflawni eu cyfrifoldeb i sicrhau bod dysgwyr SIY yn cael mynediad i'r Cwricwlwm ac yn cyrraedd eu potensial academaidd. Mae'r garfan Cyflawniad Aml Ethnig yn cynnwys tri Chynorthwyydd Cymorth Dysgu hynod brofiadol a reolir gan y Cydlynydd AAA ar gyfer Gwybyddiaeth a Dysgu.

Mae'r garfan yn bwriadu gwneud y canlynol:

  • Cefnogi ysgolion i sicrhau bod pob disgybl SIY yn cymryd rhan mewn, yn cael mynediad i ac yn cyrraedd darpariaeth y Cwricwlwm, sy’n briodol i’w gallu deallusol.
  • Cynghori a chefnogi disgyblion SIY i gaffael sgiliau iaith Saesneg ar draws y cwricwlwm.
  • Hyrwyddo addysgu partneriaeth a dulliau priodol eraill o gefnogi disgyblion SIY.
  • Darparu hyfforddiant i athrawon pwnc/dosbarth mewn strategaethau a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion dysgwyr SIY.
  • Cefnogi dysgwyr SIY trwy iaith(ieithoedd) y cartref a chynnig gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i ysgolion a rhieni dysgwyr SIY.
  • Datblygu adnoddau, gan gynnwys iaith y cartref a deunyddiau diwylliannol a fydd yn gwella sgiliau ieithyddol a dealltwriaeth gysyniadol disgyblion SIY.
  • Cefnogi ysgolion i ddatblygu cysylltiadau cartref/ysgol/cymuned.

 I lawer o ddisgyblion, mae Saesneg yn iaith ychwanegol, ac fe fydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i gyflawni'u potensial. Dydy hynny ddim yn golygu bod anghenion dysgu ychwanegol ganddyn nhw. Mae ysgolion yn gofyn am gyngor gan Garfan y Gwasanaeth Cyflawniad Aml Ethnig yn y lle cyntaf os ydyn nhw'n credu bod disgybl â Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd arafach na'r disgwyl.

I gael cymorth gan y Gwasanaeth Cyflawniad Aml Ethnig, dylai ysgolion gyflwyno cais am gymorth gan Garfan y Gwasanaeth Cyflawniad Aml Ethnig  Bydd yr holl atgyfeiriadau yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd gweithwyr achos y Gwasanaeth Cyflawniad Aml Ethnig, a chaiff cymorth ei ddarparu yn unol â hynny.