Yn Rhondda Cynon Taf mae dros 39% o wastraff wythnosol y cartref yn cynnwys gwastraff bwyd*
Mae modd i chi wneud cais am fin bwyd ar-lein.
Oeddech chi’n gwybod bod modd cynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr drwy BWERU’ch gwastraff bwyd ac ailgylchu dim ond un cadi? Bydd hynny’n cadw’r diodydd yn oer dros yr haf!
Bydd gennych ddau gadi bwyd:
- Cadi bach (Cadi Cegin) i gadw yn eich cegin - Leiniwch eich cadi gyda'r bagiau gwastraff bwyd, sy wedi'u dosbarthu gan y Cyngor. Pan mae’n llawn, dylech chi wagio cynnwys y cadi bwyd mewn i'r bin gwastraff bwyd (cadi mawr).
- Cadi mawr (Bin Gwastraff Bwyd) Cadi mawr i'w gadw y tu allan - Dylai'r Bin Gwastraff Bwyd gael ei leinio â'r bagiau gwastraff bwyd mawr, sy wedi'u dosbarthu gan y Cyngor, yn helpu i'w cadw yn lân. Mae modd cloi'r bin er mwyn sicrhau nad oes unrhyw anifeiliaid yn ei agor.
PEIDIWCH â defnyddio bagiau ailgylchu CLIR ar gyfer eich gwastraff bwyd na'u rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd. Mae'r bagiau gwastraff bwyd bach newydd wedi'u gwella a'u cryfhau a dylech chi eu rhoi yn syth yn eich cadi mawr.
Mae modd i chi wneud cais am fin bwyd ar-lein.
Bagiau ailgylchu gwastraff bwyd clir
Mae bagiau ailgylchu gwastraff bwyd ar gael i'w casglu o'r lleoliadau canlynol
Dim ond at y diben a nodir y dylid defnyddio'r bagiau yma. Nodwch fod cyfyngiad llym, sef 2 rolyn o bob bag fesul person. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan y man dosbarthu ddigon o fagiau rhwng diwrnodau dosbarthu. Does dim modd archebu bagiau ailgylchu clir a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd ar-lein mwyach:
Sylwch: dim ond hyn a hyn o oes silff sydd gan fagiau gwastraff bwyd a byddan nhw'n dechrau bioddiraddio’n naturiol po hiraf y cânt eu storio. Os oes gyda chi fagiau gwastraff bwyd sydd wedi'u storio am gyfnod estynedig, mae'r bagiau hyn yn debygol o fod yn frau ac yn fwy tebygol o rwygo a hollti. Rydyn ni’n sicrhau bod digon o fagiau startsh corn bioddiraddadwy newydd, sydd wedi'u gwella a'u hatgyfnerthu, ar gael yn ein mannau casglu. Rydyn ni'n cynghori trigolion i ddefnyddio'r bagiau newydd hyn lle bo modd
Mae modd defnyddio’r bin(iau) yma i ailgylchu’r eitemau bwyd canlynol:
Sample Table
Ffrwyth |
Esgyrn |
Llysiau
|
Cynnyrch llaeth |
Bara wedi llwydo neu hen fara |
Reis |
Bagiau te |
Pasta |
Plisg wy |
Bwd wedi'r adael |
Cig a physgod |
Grawnfwyd |
Bwyd anifeiliaid |
|
Fel rheol, os ydych chi'n ei fwyta yna mae modd ei roi yn Bryn Bin - eich cadi ailgylchu gwastraff bwyd!
Nodwch fydd bwyd sy ddim mewn bag gwastraff bwyd ddim yn cael ei gasglu.
Bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu arferol.
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu gwastraff bwyd?
Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.