Skip to main content

Gwastraff y cartref a gwastraff ailgylchu heb eu casglu

Ydych chi wedi rhoi eich gwastraff allan ar y diwrnod cywir?

Gwiriwch ddiwrnod casglu'ch gwastraff er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'ch gwastraff y cartref a'ch gwastraff ailgylchu ar ochr y ffordd ar y diwrnod cywir.

Bagiau du a biniau ar olwynion

Os nad oedd y bin/bagiau du yn y man casglu erbyn 7am neu os ydych chi'n rhoi gormod o fagiau du, ni fethwyd y casgliad ac ni allwn ddychwelyd tan y casgliad nesaf a drefnwyd.

Os yw'ch gwastraff y cartref heb ei gasglu ar ôl 24 awr, fe gewch chi roi gwybod i ni amdano.

Nodwch: Os ydych chi wedi defnyddio bag ailgylchu CLIR yn eich bin/cadi gwastraff bwyd, fyddwn ni DDIM yn ei gasglu gan y bydd yn halogi deunydd ailgylchu arall.

Dydy hyn DDIM yn achos o wastraff heb ei gasglu.

Tynnwch y bag CLIR allan o'r bin/cadi a'i roi allan i'w gasglu ar eich diwrnod casglu nesaf.

Ailgylchu

Os doedd y bagiau ailgylchu ddim yn y man casglu erbyn 7am neu os oedd y bag ailgylchu wedi'i lygru/yn cynnwys eitemau does dim modd eu hailgylchu, yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol. 

Os oedd y gwastraff ailgylchu wedi'i lygru, tynnwch y gwastraff o'r man casglu a'i ddidoli mewn bag ailgylchu priodol. Does dim modd i ni ddychwelyd i gasglu'ch bagiau wedi'u hail-ddidoli tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.

Os yw'ch gwastraff ailgylchu heb ei gasglu ar ôl 24 awr, fe gewch chi roi gwybod i ni amdano.

Beth mae modd imi ei ailgylchu a ble?

Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.

Tudalennau Perthnasol