Skip to main content

Newid i'r rhwydwaith o lwybrau (Gorchmynion Hawl Tramwy Cyhoeddus)

Map a Datganiad Diffiniol

Mae'r Map a Datganiad Diffiniol yn gofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae'r map yn dystiolaeth o fodolaeth a statws unrhyw hawliau sy'n cael eu dangos, ac mae'r datganiad yn dystiolaeth o safle, lled, a chyfyngiadau neu gyflwr yr hawliau hynny.

Mae tri map diffiniol ar gyfer Rhondda Cynon Taf:

  • Cwm Rhondda - cyhoeddwyd 16/04/1993 ar raddfa o 1:10 000 (Dyddiad perthnasol 16/10/1992) 
  • Cwm Cynon - cyhoeddwyd 15/12/1995 ar raddfa o 1:10 000 Dyddiad perthnasol 15/12/1995)
  • Taf-Elái - cyhoeddwyd 20/12/1990 ar raddfa o 1:25 000 (Dyddiad perthnasol 01/01/1971)

Edrych ar y map diffiniol

Does dim modd prynu'r map diffiniol. Cysylltwch â'r garfan Hawliau Tramwy Cyhoeddus i drefnu apwyntiad i weld y map a datganiadau diffiniol.

Mae modd gweld ein map rhyngweithiol yma. Dydy hon ddim yn ddogfen gyfreithiol ond mae wedi'i thynnu o gopi gweithiol o'r map diffiniol ac mae'n cael ei defnyddio er mwyn deall lleoliad llwybrau. Mae'r ddogfen yn cael ei diweddaru'n barhaus, sy'n golygu ei bod hi hefyd yn dangos effaith pob newid sydd wedi'u gwneud ar y mapiau diffiniol ers eu dyddiadau perthnasol. Fodd bynnag, dylid nodi bod edrych ar ddata ar raddfa fwy yn arwain at gamgymeriadau ac ni ddylid dibynnu arnyn nhw at ddibenion cyfreithiol neu fasnachol. 

Gorchmynion Addasu'r Map Diffiniol

Yn unol â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, rhaid adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn gyson. Mae deddfwriaeth yn cydnabod y posibilrwydd nad yw'n gofnod cyflawn o Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae modd i unrhyw un sy'n dymuno addasu'r map a datganiad diffiniol wneud cais am Orchymyn Addasu, a naill ai datgan Hawl Tramwy Cyhoeddus newydd, neu newid neu ddileu un presennol yn seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol. I wneud cais i addasu'r map diffiniol, cysylltwch â'r garfan Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Mae modd gweld cofrestr o geisiadau sydd wedi'u cyflwyno hyd yn hyn yma - Ceisiadau Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.

Dargyfeirio neu gau Hawl Tramwy Cyhoeddus

Mae modd cau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig) yn barhaol neu eu dargyfeirio am nifer o resymau, mae hyn yn cynnwys datblygu trwy orchymyn cyfreithiol a'i elwir yn Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus. Mae modd i'r Cyngor gyhoeddi'r gorchmynion yma.

Cysylltwch â'r garfan Hawliau Tramwy Cyhoeddus i wneud cais i ddargyfeirio neu gau hawl tramwy cyhoeddus.

Cau Hawl Tramwy Cyhoeddus Dros Dro

Mae modd cau Hawliau Tramwy Cyhoeddus dros dro neu eu dargyfeirio er mwyn cynnal gwaith yn ddiogel ar lwybr neu yn yr ardal gyfagos neu'n dilyn difrod i'r arwyneb. 

Cyflwyno cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro

Ffynonellau eraill o wybodaeth:-

Cyfoeth Naturiol Cymru - Map a Datganiad Diffiniol

Y Map Diffiniol - Ramblers Cymru