Skip to main content

Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Mae'r Rheoliadau Adeiladu yn gosod safonau derbyniol gofynnol. Dydyn nhw ddim yn cwmpasu safonau crefftwaith neu orffeniadau – dim ond y gofynion o ran sicrhau gwaith adeiladu diogel. 

Mae’n bosibl na fydd adeilad sy’n bodloni Rheoliadau Adeiladu yn bodloni’r safonau rydych chi’n eu disgwyl o ran y gwaith gorffenedig. Dylech chi fod y neffro i hynny wrth i chi gychwyn trefniadau contract gyda’ch adeiladwr.

Yn ôl y gyfraith, mae hi’n ofynnol i’r adeiladwr a’r perchennog wneud Cais Rheoliadau Adeiladu priodol ac i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.  O beidio â gwneud hynny, fe allai camau erlyn mewn Llys Ynadon gael eu cymryd.

Dyma rai prosiectau y mae’n bosibl bydd angen Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar eu cyfer

  • Estyniadau
  • Addasu a throsi garej
  • Trosi llofft
  • Trosi seler
  • Newidiadau i strwythur e.e. dymchwel waliau sy’n cynnal pwysau
  • Newid i systemau draenio, dŵr poeth neu wresogi
  • Ffenestri newydd
  • Gwaith Trydan
  • Ailosod gorchuddion to
  • Inswleiddio wal ddwbl
  • Rhai garejis
  • Rhai ystafelloedd gwydr

Os ydych chi’n ystyried prosiect adeiladu, ond dydych chi ddim yn siwr a oes eisiau Rheoliadau Adeiladau arnoch chi, Cysylltwch a ni i gael cyngor Ffon: 01443 281156 Ebost: rheoliadeiladu@rctcbc.gov.uk

Proses Rheoliadau Adeiladu

Os bydd eisiau cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnoch chi, bydd raid gwneud cais.

Galwch heibio i wefan Rheoliadau Adeiladu Awdurdodau Lleol i gael gwybodaeth am bryd bydd eisiau cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch chi