Skip to main content

Cyfrifoldebau Draenio Tir

Mae draenio tir fel arfer yn cyfeirio at ddraenio dŵr wyneb trwy dir. Mae cwrs dŵr yn cynnwys yr holl afonydd, nentydd, draeniau, ffosydd, toriadau, cwlfertau, morgloddiau, llifddorau, carthffosydd (ac eithrio carthffosydd cyhoeddus) a thramwyfeydd, y mae dŵr yn llifo drwyddyn nhw (fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Draenio Tir 1991).

Mae draenio tir yn faes cyfrifoldeb cymhleth, ond i'w esbonio'n gryno, mae perchennog tir yn gyfrifol am ddraenio ei dir ei hun. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i berson sy'n berchen ar dir lefel is dderbyn dŵr draenio tir naturiol (hynny yw, dŵr ffynnon, dŵr daear neu ddŵr ffo wyneb) o dir cyfagos ar lefel uwch. Dyw hyn ddim yn berthnasol lle mae perchennog y tir cyfagos wedi gwneud 'newidiadau' fel nad yw'r dŵr ffo o'r tir yn 'naturiol' - er enghraifft, os yw'r ardd gefn gyfan wedi'i phalmantu drosodd. Dydy dŵr ffo 'naturiol' ddim yn cynnwys dŵr o bibellau dŵr y gwteri.

Eiddo a thirfeddianwyr sy'n gyfrifol am ddraenio tir a chynnal a chadw cyrsiau dŵr, gyda chyrsiau dŵr yn croesi neu'n ffinio â'u tir. Lle mae cwrs dŵr rhwng ffiniau eiddo, mae pob perchennog yn gyd-gyfrifol. Gelwir y mathau hyn o dirfeddianwyr yn 'berchnogion glannau'r afon' ac o dan gyfraith gwlad, cyfrifoldeb perchennog y glannau yw cynnal y cwrs dŵr ei hun a’r llif o’i fewn. Mae rhagor o wybodaeth am berchnogaeth glannau afon, gan gynnwys hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau afon, ar gael ar ein Tudalen Perchnogaeth Afonydd.

Dydy Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddim yn gyfrifol am ddraenio tir, oni bai mai ni yw'r tirfeddianwyr. Fodd bynnag, fel y corff rheoleiddio ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin yn Rhondda Cynon Taf, mae gan y Cyngor ddyletswydd o dan Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991 i roi caniatâd ar gyfer addasu, symud neu amnewid strwythurau neu nodweddion o fewn cyrsiau dŵr cyffredin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein Tudalen Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.

O ran materion draenio tir, dim ond hyn a hyn o bwerau caniataol sydd gan y Cyngor i weithredu mewn rhai amgylchiadau i liniaru effeithiau llifogydd. Mae’r pwerau hyn wedi’u cynnwys yn Neddf Draenio Tir 1991 ac maen nhw'n cynnwys:

  • Pwerau i wneud gwaith a/neu fynd ar dir at ddibenion arfer swyddogaethau rheoli perygl llifogydd (Adran 14A/64).
  • Cymryd camau gorfodi i gynnal y llif cywir mewn cwrs dŵr (Adran 24/25).

Os bydd tirfeddiannwr yn methu â gwneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar gwrs dŵr arferol yna gall y Cyngor ddefnyddio pwerau o dan y Ddeddf Draenio Tir i gyflwyno rhybudd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y gwaith angenrheidiol. Gall methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath olygu bod y Cyngor yn gwneud y gwaith ac yn ad-dalu costau gwneud hynny ar y perchnogion. Mae'n well gyda ni beidio â chymryd camau ffurfiol ac i dirfeddianwyr gynnal cyrsiau dŵr yn wirfoddol.

Pwerau caniataol yw'r rhain, nid dyletswyddau, a gall y Cyngor ddewis eu harfer os a phryd byddwn ni o'r farn bod hynny yn angenrheidiol. Mae modd dysgu rhagor am hyn ar ein Tudalen Gorfodi Draenio Tir.

Dydy pwerau'r Cyngor ddim yn ymestyn i brif afonydd a phe byddai problemau tebyg yn codi ar y rhain yna byddai'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd unrhyw gamau a ystyrir yn angenrheidiol.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â draenio tir a llifogydd, cysylltwch â:

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH