Skip to main content

Gorfodaeth Draenio Tir

Gall gwaith amhriodol a gweithgarwch anawdurdodedig mewn perthynas â draenio tir a chyrsiau dŵr cyffredin gyflwyno perygl llifogydd sylweddol mewn rhai ardaloedd ac felly mae angen eu rheoli'n briodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) yn gyfrifol am reoli gweithgarwch caniatáu a gorfodi sy'n ymwneud â draenio tir a chyrsiau dŵr cyffredin.

Mae’r pwerau caniataol sydd ar gael i’r Cyngor i weithredu mewn rhai amgylchiadau i reoleiddio swyddogaeth briodol cyrsiau dŵr cyffredin a lliniaru effeithiau llifogydd wedi’u cynnwys Deddf Draenio Tir 1991. Disgrifir y pwerau hyn ynghyd â’r fframwaith deddfwriaethol y gall CBSRhCT gymryd camau gorfodi ffurfiol mewn perthynas â chyrsiau dŵr arferol eu disgrifio’n fanylach yn yr adrannau isod.

Pwerau Penodol Gorfodi Draenio Tir

Deddf Draenio Tir 1991 yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n rhoi pwerau i CBSRhCT ar gyfer gorfodi draenio tir o dan Adrannau 24 a 25.

Adran 24 Torri gwaharddiad ar rwystrau ac ati

Ac yntau'n corff rheoleiddio ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin yn Rhondda Cynon Taf, mae gan y Cyngor ddyletswydd o dan Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991 i roi caniatâd ar gyfer newid, tynnu neu amnewid strwythur neu nodweddion o fewn cwrs dŵr cyffredin.

Adran 24 o Ddeddf Draenio Tir 1991 yn rhoi pŵer i CBSRhCT gael gwared ar waith heb ganiatâd. Mae unrhyw waith a adeiladwyd cyn cael caniatâd ysgrifenedig ffurfiol gan CBSRhCT yn parhau heb ei ganiatáu. Os bydd CBSRhCT yn ystyried bod y gwaith sydd heb ei ganiatáu mewn cwrs dŵr cyffredin yn niweidiol, bydd yn cychwyn camau gorfodi i ddileu’r gwaith hwnnw ac adennill costau gwneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses caniatáu cwrs dŵr arferol, ewch i wefan y Cyngor yma.

Gall y Cyngor roi rhybudd i’r sawl a gododd y rhwystr neu unrhyw berson arall sydd â’r pŵer i’w symud. Os bydd y person yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad gall fod yn agored, o'i gollfarnu, i ddirwy a gall yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol gymryd camau i unioni'r rhwystr ac adennill y costau gan y person cyfrifol.

Pwerau Adran 25 i wneud gwaith i gynnal llif cwrs dŵr

Cyfrifoldeb tirfeddiannwr y glannau yw sicrhau bod cyrsiau dŵr yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol fel nad ydyn nhw'n achosi perygl llifogydd. Mae rhagor o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau'r afon ar gael ar ein Tudalen Perchnogaeth Glannau Afon.

Mae gan CBSRhCT fel yr ALlLlA bwerau o dan Adran 25 o'r Ddeddf Draenio Tir 1991 i orfodi perchenogion glannau afonydd i gynnal llif cyrsiau dŵr cyffredin yn Rhondda Cynon Taf, hynny yw, sicrhau bod llif y dŵr yn ddirwystr ac yn llifo’n rhwydd. Mae modd arfer y pwerau hyn os bernir bod diffyg cynnal a chadw neu newid cwrs dŵr yn achosi perygl llifogydd.

Os yw cyflwr cwrs dŵr yn amharu ar lif y dŵr yna gall yr ALlLlA gyflwyno rhybudd i’r tirfeddiannwr glannau yn gofyn iddo gymryd camau i unioni’r amod. Dylai’r hysbysiad yma nodi natur y gwaith sydd ei angen ac mae gan y sawl a gyflwynir yr hawl i apelio i’r Llys Ynadon. Yn amodol ar yr hawl yma i apelio, os bydd derbynnydd yr hysbysiad yn methu â chymryd y camau priodol, yna bydd yn euog o drosedd ac yn agored, o'i gollfarnu, i ddirwy.

Mae gan y Cyngor hefyd bwerau o dan Adran 14A o Ddeddf Draenio Tir 1991 i wneud gwaith i gynnal llif y cwrs dŵr ac adennill cost y gwaith hwnnw oddi wrth y person cyfrifol.

Pwerau mynediad i dir

Mae gan Swyddogion CBSRhCT, o dan Adran 64 o Ddeddf Draenio Tir 1991, bŵer cyfreithiol i fynd ar unrhyw dir at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau rheoli perygl llifogydd o dan y Ddeddf ac i arolygu unrhyw dir ac archwilio cyflwr gwaith draenio arno. Dim ond ar adegau rhesymol y caiff swyddogion fynd ar dir ac mae’n rhaid iddyn nhw, yn gyntaf, gyflwyno, os oes angen, dogfen yn dangos eu hawdurdod, ac eithrio mewn argyfwng lle gall swyddogion CBSRhCT fynd ar dir heb rybudd.

Agwedd y Cyngor at orfodi

Dyma'r pwerau sydd gan yr ALlLlA mewn perthynas â gorfodi draenio tir caniataol, sy'n golygu mai penderfyniad yr awdurdod o hyd yw a yw'n arfer y pwerau hyn ai peidio. Does dim gan yr ALlLlA ddyletswydd i wneud gwaith nac i gymryd camau gorfodi.

Mae'n well gan y Cyngor yn y lle cyntaf weithio gyda thirfeddianwyr a datblygwyr i ddatrys materion yn anffurfiol. Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y bydd y Cyngor yn arfer ei bwerau gorfodi caniataol (cyflwyno hysbysiadau statudol a chymryd camau adferol i gwblhau gwaith), pan fydd pob ymdrech arall i ddatrys y mater wedi dod i ben, neu pan fo angen hwylustod priodol.

Lle gall llifogydd niwsans gael eu hachosi gan ddatblygiadau newydd (adeiladau, waliau neu arwynebau caled), efallai yr hoffech chi gysylltu â charfan gynllunio'r Cyngor i benderfynu a fu achos o dorri caniatâd cynllunio.                                                                                        

Does dim unrhyw ddeddfwriaeth i lywodraethu rheolaeth dŵr wyneb. Fel perchennog eiddo mae gennych chi'r hawl i amddiffyn eich eiddo rhag dŵr wyneb. Mae rhagor o wybodaeth am sut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd ar gael yma.

Os oes gyda chi unrhyw bryderon ynghylch unrhyw waith neu rwystrau sy’n effeithio ar gwrs dŵr cyffredin yn eich ardal chi, cysylltwch â’r ALlLlA drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH