Skip to main content

Trosolwg Cynlluniau Lliniaru Llifogydd

A ninnau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n gweithio i leihau effaith llifogydd ac i sicrhau cyllid i ddylunio a chyflawni cynlluniau a fydd yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau. Mae'r cynlluniau yma'n cael eu galw'n gynlluniau lliniaru llifogydd.

Mae cynlluniau lliniaru llifogydd yn helpu i adeiladu ein gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a chreu cymunedau mwy diogel. Maen nhw hefyd yn rhan o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a Chynllun Gweithredu ehangach y Cyngor, y mae modd bwrw golwg arnyn nhw yma.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf un o'r rhaglenni cyfalaf rheoli perygl llifogydd mwyaf o blith unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cynlluniau yn amrywio o fân welliannau i geuffosydd, i gynlluniau lliniaru llifogydd lleol mwy cymhleth i ymyriadau rheoli llifogydd naturiol.

Daw mwyafrif y cyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru drwy grantiau cyfalaf a refeniw. Am ragor o wybodaeth am sut mae cynlluniau lliniaru llifogydd yn cael eu hariannu a'u blaenoriaethu yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru, bwriwch olwg ar Adran 9 Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a Chynllun Gweithredu'r Cyngor.

Mae'r tabl canlynol yn amlinellu nifer y cynlluniau sydd wedi'u cwblhau a'r cynlluniau sydd dal ar waith:

Nifer y Cynlluniau sydd wedi'u Cwblhau 

 85

Nifer y Cynlluniau sydd Dal ar Waith 

 32

Mae Cynlluniau Lliniaru Llifogydd yn cael eu comisiynu a'u rheoli ar sail prosiectau unigol. Mae prosiectau'n symud ymlaen trwy wahanol gyfnodau, gan ddechrau gyda rhag-ddichonoldeb yna dichonoldeb, dylunio a datblygu ac yn olaf, adeiladu.

Mae modd bwrw golwg ar Gynlluniau Lliniaru Llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf drwy fynd i'n gwefan drwy glicio ar y dolenni uchod.