Peidiwch â gadael eich bathodyn yn eich cerbyd os nad oes angen ei arddangos, hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio eich cerbyd yn aml. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw eich bathodyn glas yn ddiogel.
Dim ond os ydych chi'n ddeiliad cofrestredig, neu os yw’r deiliad cofrestredig yn teithio gyda chi yn y car, y mae modd i chi ddefnyddio eich bathodyn glas. Gallwch wneud cais am drwydded parcio bathodyn glas ar-lein.
Sut i arddangos eich bathodyn
- Rhaid i chi arddangos eich bathodyn ar banel offer eich car. Rhaid sicrhau bod modd gweld manylion y bathodyn drwy'r ffenestr flaen.
- Os ydych chi'n parcio mewn man sydd â chyfyngiad amser, rhaid i chi arddangos y Cloc Parcio gyda'r bathodyn er mwyn nodi'r amser wnaethoch chi gyrraedd.
- Mae’n bosibl y byddwch chi’n wynebu Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) os nad ydych chi'n eu harddangos yn gywir.
Ble mae modd i chi barcio?
Mae modd i chi ddefnyddio eich bathodyn glas er mwyn parcio:
- Ym Meysydd Parcio'r Cyngor (cilfachau parcio ar gyfer pobl anabl yn unig) os ydych chi'n parcio mewn cilfach sydd heb ei neilltuo ar gyfer pobl anabl, bydd gofyn i chi dalu’r ffi berthnasol.
- Mewn Cilfachau Parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Glas yn Unig.
- Mewn Cilfachau Parcio ar y Stryd â Chyfyngiadau Aros
Mae modd i chi barcio am hyd at 3 awr gan ddefnyddio eich Cloc Parcio:
- Mewn Cilfachau a Rennir gan Drigolion (h.y. lle mae arwydd yn nodi Man Parcio i Drigolion a Chyfyngiadau Aros),
- ar Linellau Melyn Dwbl, ac
- ar Linellau Melyn Sengl.
Rhaid i chi wirio arwyddion meysydd parcio gan roi sylw i unrhyw gostau, cyfyngiadau amser, a rheolau arbennig ar gyfer deiliaid bathodyn glas, neu unrhyw reolau o ran gwahardd llwytho.