Skip to main content

Cynllun y Bathodyn Glas

Nod trwydded parcio Bathodyn Glas yw cynorthwyo pobl sydd ag anawsterau cerdded, nam gwybyddol neu broblemau symudedd eraill i deithio'n annibynnol, fel gyrrwr neu fel teithiwr. 

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas yn caniatáu i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster barcio, wrth arddangos eu bathodyn glas, lle yn gyffredinol mae cyfyngiadau i fodurwyr eraill yn berthnasol. Mae'r Cynllun yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl gyda phroblemau symudedd i oresgyn rhai o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth gyrraedd eu swyddi, siopau a gwasanaethau pwysig eraill. 

Ni chodir tâl am geisiadau gan unigolion yng Nghymru, er y ceir codi tâl o £10 am fathodynnau i sefydliadau, ac am fathodynnau cyfnewid newydd yn lle rhai sy wedi'u colli. 

Meini prawf

Bydd ymgeiswyr yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer Bathodyn Glas os ydyn nhw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf canlynol:

  • Ymgeiswyr mae modd iddyn nhw ddangos tystiolaeth i brofi eu bod nhw'n derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
  • Ymgeiswyr mae modd iddyn nhw ddangos tystiolaeth i brofi eu bod nhw'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) sy'n cynnwys 8 pwynt ar gyfer 'Symud o Gwmpas' neu 12 pwynt ar gyfer 'Cynllunio Taith'
  • Ymgeiswyr sy'n ddall (nam difrifol ar eu golwg) ac sy'n gallu cyflwyno Tystysgrif Nam ar y Golwg wedi'i llofnodi
  • Ymgeiswyr mae modd iddyn nhw ddangos tystiolaeth eu bod nhw'n derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Ymgeiswyr mae modd iddyn nhw ddangos tystiolaeth eu bod nhw'n derbyn budd-dal dan Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Adfyddinoedd
  • Ymgeiswyr sy'n cael eu hystyried i fod ag anhwylder meddyliol parhaol ac mae tariff lefel 6 o fewn Cynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a'r Adfyddinoedd wedi cael ei ddyfarnu

Os nad yw ymgeisydd yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyso 'awtomatig', mae modd iddo gyflwyno cais am Fathodyn Parcio i Bobl Anabl os mae modd iddo ddangos tystiolaeth o unrhyw un o'r canlynol:

  • Anawsterau cerdded sylweddol a pharhaol
  • Anhawster cerdded dros dro y mae disgwyl iddo bara o leiaf 12 mis (byddwn ni'n darparu bathodyn glas a fydd yn para 12 mis)
  • Nam gwybyddol sy'n effeithio ar allu person i gynllunio a dilyn taith, i'r graddau bod angen goruchwyliaeth barhaus arno ef
  • Anabledd difrifol yn y ddwy fraich, yn gyrru car yn aml ond gydag anhawster, a methu â defnyddio mesuryddion talu am barcio neu offer tebyg
  • Mae'n cyflwyno cais ar ran plentyn o dan 3 oed sydd ag offer meddygol swmpus gydag ef neu hi drwy'r amser, neu mae angen mynediad ar unwaith i gerbyd modur rhag ofn bod angen triniaeth mewn argyfwng

Faint mae bathodyn yn ei gostio?

Yng Nghymru, nid oes tâl am geisiadau unigol, er y gellir codi tâl o £10 am fathodynnau trefnu a disodli.

Pa mor hir mae'r Drwydded Bathodyn Glas yn para?

Caiff Bathodynnau Glas eu rhoi am gyfnod o dair blynedd a bydd rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn os yw eich cyflwr yn gwella ac os nad ydych chi angen y bathodyn bellach. Ar ôl y tair blynedd yma, bydd rhaid i chi wneud cais arall am fathodyn os ydych chi am barhau i'w ddefnyddio. Os nad ydych chi angen Bathodyn Glas oherwydd profedigaeth, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Dywedwch Unwaith yn Unig' sy'n cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol. Byddwn ni'n anfon nodyn atgoffa ichi ddychwelyd y bathodyn.

Sut rydw i'n cyflwyno cais?

Cam 1

Lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais (pdf).
Os nad oes modd i chi argraffu'r ffurflen gais, gofynnwch am ffurflen gais drwy gysylltu â Chanolfan Alwadau Rhondda Cynon Taf ar 01443 425005.

Cam 2

Trefnu apwyntiad ar-lein mewn Canolfan IBobUn o'ch dewis er mwyn cyflwyno'ch cais. Mae modd i chi drefnu apwyntiad hefyd drwy ffonio 01443 425005. Nodwch, does dim rhaid i'r ymgeisydd ddod i'r apwyntiad cyn belled â bod modd i'r holl wybodaeth mae ei hangen gael ei chyflwyno yn ei absenoldeb.

Cam 3

Sicrhau bod gennych y dystiolaeth ategol i fynd gyda chi i'ch apwyntiad:

  • Tystiolaeth o bwy ydych chi
  • Tystiolaeth o'ch cyfeiriad
  • Llun pasbort, dim mwy na 6 mis oed (fel arall, bydd modd i staff yn y ganolfan IBobUn gymryd eich llun i chi yn ystod eich apwyntiad)
  • Tystiolaeth o'ch hawl i gael Bathodyn Parcio i Bobl Anabl
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau cyn llenwi a chyflwyno'ch cais.
Cewch hefyd gyflwyno cais uniongyrchol ar gyfer Bathodyn Parcio i Bobl Anabl ar-lein

Pe hoffech chi becyn cais neu os ydych chi o'r farn bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

E-bost: CarfanYmatebArUnwaith@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425005