Ydych chi wedi colli'ch cerdyn llyfrgell neu ydy e wedi cael ei ddwyn? Os felly, mae modd ichi roi gwybod am hyn yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod eich bod wedi colli'ch cerdyn, neu'i fod wedi cael ei ddwyn, bydd gofyn ichi gadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad, a chyflwyno prawf o bwy ydych chi (sy'n nodi'ch enw a'ch cyfeiriad).
Os dydych chi ddim eisiau i gerdyn newydd gael ei gyflwyno'n syth (gan y byddwch chi'n ceisio dod o hyd i'ch cerdyn), byddwn ni'n nodi neges ar y system, rhag ofn bydd rhywun yn ceisio defnyddio'ch cerdyn.
Byddwn ni'n codi tâl o £1.37 arnoch chi am y cerdyn newydd. Yna, fydd dim modd defnyddio'ch hen gerdyn