Skip to main content

Cyngor i fyfyrwyr sy'n denantiaid

Nod y Cyngor yw sicrhau bod pob llety ar gyfer myfyrwyr yn bodloni'r safonau a'r gofynion perthnasol, er mwyn gwarchod iechyd a diogelwch ei breswylwyr. 

O ganlyniad i hynny, mae gan y Cyngor garfan benodol o swyddogion sy'n delio â phob math o lety i'w rentu'n breifat. Byddai'r garfan yma yn falch o fod o gymorth i chi, pe byddech chi'n cael unrhyw broblemau sy'n ymwneud â'ch llety.

Mae'r Cyngor yma'n gweithredu cynllun trwyddedu sy'n sicrhau bod pob llety sydd â phedwar myfyriwr/gosodiad (neu fwy na hynny) yn bodloni meini prawf llym sy'n ymwneud â rhagofalon tân a safonau gofod er enghraifft.

Mae pob eiddo sydd â 3 gosodiad yn cael ei archwilio hefyd er mwyn sicrhau ei fod o safon benodol.

I gael gwybodaeth fwy manwl ynglŷn â'r pethau i edrych amdanyn nhw wrth rentu eiddo yn y sector preifat a'ch hawliau fel tenant, darllenwch ein Canllaw i Fyfyrwyr sy'n Rhentu Llety.

Rydyn ni'n argymell y dylai myfyrwyr a'u rhieni geisio dod o hyd i lety trwyddedig yn ddewis cyntaf. Mae cymorth a chyngor ar gael ar y wefan studentpad.

Darllen Guidance for students using gas appliances in rented accommodation

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk