Skip to main content

Plâu - Gwnewch apwyntiad ar gyfer eiddo domestig

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu effeithiol ar gyfer amrywiaeth o blâu mewn cartrefi preifat ac eiddo mae’r Cyngor yn berchen arnyn nhw 

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth trin plâu ar gyfer adeiladau'r Awdurdod Lleol ac eiddo cymdeithasol gwag.

Oherwydd y galw presennol ar y gwasanaeth, mae rhywfaint o oedi wrth ddarparu gwasanaeth Rheoli Plâu ar hyn o bryd. O ganlyniad, does dim modd i ni warantu y byddwn ni'n ymweld â’ch eiddo am y tro 1af o fewn 2 ddiwrnod.

Nodwch: O 1 Ebrill 2023, bydd y Cyngor ond yn darparu triniaethau rheoli plâu ar gyfer llygod mawr, llygod, pỳcs (bedbugs) a chwilod duon (cockroaches).

Darllenwch ragor am sut i wneud apwyntiad ar gyfer yr adeiladau yma.

Dyw'r Cyngor ddim yn darparu gwasanaeth rheoli plâu ar gyfer adeiladau masnachol a busnesau ar hyn o bryd.

Costau ar gyfer trin plâu mewn eiddo domestig;

Charges for domestic premises
PlaSafle'r driniaethNodiadau Cyfanswm y costau gan gynnwys TAW
Llygod mawr/Llygod bach Tu fas a tu mewn yr eiddo

Mae’r gost yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad dilynol, os yw hynny’n angenrheidiol.Yn ystod yr ymweliad olaf, bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn cael ei waredu. os dydyn ni ddim yn gallu cael mynediad wedi inni gytuno ar apwyntiad, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad.

£30.80
Chwilod duon
Y tu mewn i'r adeilad yn unig

Uchafswm o dri ymweliad dan do yn unig – os dydyn ni ddim yn gallu cael mynediad wedi inni gytuno ar apwyntiad, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad.

£30.80
Pỳcs Y tu mewn i'r adeilad yn unig Hyd at ddwy driniaeth chwistrellu £30.80

Gwenyn (tu allan i eiddo) - Cysylltwch www.cardiffbeekeepers.co.uk
Ystlumod - Cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Cymru : 029 2048 0070

Beth sy'n digwydd ar ôl trefnu triniaeth?

Byddwch chi naill ai yn derbyn cadarnhad ar lafar neu gadarnhad drwy e-bost sy'n manylu'r gwasanaeth rheoli plâu rydych chi wedi archebu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i ganslo'r apwyntiad a goblygiadau colli apwyntiad.

Nod y Cyngor ydy cynnal ymweliadau rheoli plâu o fewn dau ddiwrnod gwaith a byddwch chi'n derbyn galwad ffôn i drefnu dyddiad addas i ni ymweld â chi.

Bydd Swyddog Rheoli Plâu'r Cyngor yn ymweld â chi rhwng 9.00am a 16.00 pm ddydd Llun i ddydd Gwener. (Byddwn ni'n trefnu ymweliadau ar gyfer y bore (AM) neu'r prynhawn (PM))

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y pris ar gyfer gwahanol fathau o blâu?

Llygod mawr/Llygod
Mae’r gost yn cynnwys tri ymweliad i ddelio â’r broblem. Os bydd angen mwy na thri ymweliad, bydd angen gwneud taliad pellach.  

Mae’r gost uchod yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad ychwanegol, os yw hynny’n angenrheidiol. Bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn yr ymweliad olaf yn cael ei waredu yn unol â chynllun stiwardiaeth gwenwyn llygod i amddiffyn bywyd gwyllt a rhywogaethau nad ydyn nhw’n darged.

Llau gwely

Bydd y gost yn cynnwys dwy driniaeth lawn o’r holl leoedd cysgu yn yr eiddo. Dylai’r ail ymweliad fod dau wythnos ar ôl yr ymweliad cyntaf. Dylai deiliaid yr eiddo ddilyn y cyngor a gaiff ei roi iddyn nhw er mwyn sicrhau bod y driniaeth mor effeithiol â phosibl.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd rhaid archebu hyn.

Chwilod Duon
Mae’r gost yn cynnwys uchafswm o dri ymweliad i drin y broblem. Bydd y Swyddog Rheoli Plâu yn rhoi cyngor ar y cyfnod a argymhellir rhwng yr ymweliadau.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd angen archebu hyn.

Canslo apwyntiad

Dim ond hyn a hyn o swyddogion sy gyda ni  a byddan nhw'n ceisio eu gorau glas i gadw eu hapwyntiadau - byddwn ni'n ddiolchgar pe baech chi'n gwneud yr un peth.

Os ydych chi'n methu â chadw at eich apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01443 425001 cyn gynted ag y bo modd er mwyn trefnu apwyntiad addas arall.

Apwyntiadau wedi'u colli

Os byddwch chi'n colli apwyntiad rheoli plâu bydd cerdyn galw yn cael ei adael a bydd hyn yn cyfrif fel un o'ch ymweliadau. Os ydych chi wedi trefnu sawl ymweliad, bydd hyn yn cyfrif fel un o'ch ymweliadau. Os ydych chi’n colli dau ymweliad, bydd eich triniaeth yn cael ei chanslo a bydd rhaid ichi dalu am driniaeth arall, yn ôl y costau uchod.

Ar gyfer triniaethau llygod mawr, llygod bach a chwilod duon, mae uchafswm o dri ymweliad. Bydd colli unrhyw apwyntiad sy wedi'i drefnu ymlaen llaw yn cyfrif fel ymweliad.

Ad-daliadau

Mae modd ichi ganslo a chael ad-daliad llawn drwy ffonio 01443 425001 cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu. Os yw Swyddog Rheoli Plâu yn dod i'ch eiddo yn dilyn apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw, yna does dim modd cael ad-daliad

Gwneud Apwyntiad Triniaeth Rheoli Plâu

Archebu triniaeth rheoli plâu ar-lein

Bydd y taliad yn cael ei wneud drwy gerdyn Credyd neu Gerdyn Debyd