Skip to main content

Triniaeth Rheoli Plâu - Adeiladau'r Awdurdod Lleol ac eiddo cymdeithasol gwag

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu effeithiol ar gyfer amrywiaeth o blâu mewn safleoedd sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol, eiddo tai cymdeithasol / rhent preifat gwag ac ardaloedd cymunedol mewn eiddo tai cymdeithasol / rhent preifat.

Nodwch: Dydy'r Cyngor ddim yn darparu Gwasanaeth Rheoli Plâu i safleoedd masnachol a busnesau ar hyn o bryd.

Oherwydd y galw presennol ar y gwasanaeth, mae rhywfaint o oedi wrth ddarparu gwasanaeth Rheoli Plâu ar hyn o bryd. O ganlyniad, does dim modd i ni warantu y byddwn ni'n ymweld â’ch eiddo am y tro 1af o fewn 2 ddiwrnod.

 

Costau a ffïoedd ar gyfer plâu y mae modd eu trin mewn safleoedd sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol

Pla

Lleoliad   y driniaeth

Nodiadau

Cyfanswm   gan gynnwys TAW

Llygod Ffrengig/Llygod 

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Mae’r gost yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad dilynol, os yw hynny’n angenrheidiol.

Yn ystod yr ymweliad olaf, bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn cael ei waredu.
Os na all y Swyddog Rheoli Plâu gael mynediad ar yr apwyntiad y cytunwyd arno, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad

      £101.90

Chwilod Duon, Chwain, Morgrug a Chwilod Carped

Y tu mewn i'r eiddo yn unig

Hyd at ddwy driniaeth chwistrellu, ar wahân  i chwilod   duon a allai gymryd  uchafswm o dri ymweliad

     £54.00

Gwenyn

 

Dydyn ni ddim yn trin gwenyn

 

Gwenyn meirch

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Un driniaeth

     £54.00

Costau a ffïoedd ar gyfer
plâu y mae modd eu trin mewn tai cymdeithasol gwag / eiddo rhent preifat a
mannau cymunedol mewn tai cymdeithasol / eiddo rhent preifat:

Pla

Lleoliad   y driniaeth

Nodiadau

Cyfanswm   gan gynnwys TAW

Llygod Ffrengig neu lygod

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Mae’r gost yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad dilynol, os yw hynny’n angenrheidiol.

Yn ystod yr ymweliad olaf, bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn cael ei waredu.

Os na all y Swyddog Rheoli Plâu gael mynediad ar apwyntiad y cytunwyd arno, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad.

 

£223.70

Chwilod duon, Chwain, Morgrug, Chwilod   Carped a Gwenyn

Y tu mewn i'r eiddo yn unig

Hyd at ddwy driniaeth chwistrellu, ar wahân i chwilod duon a   allai gymryd  uchafswm o dri ymweliad

£109.80

Gwenyn

 

Dydyn ni ddim yn trin gwenyn

 

Gwenyn meirch

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Un driniaeth

£109.80

Beth sy'n digwydd ar ôl archebu triniaeth?

Nod y Cyngor yw cynnal ymweliadau rheoli plâu o fewn dau ddiwrnod gwaith. Byddwch chi'n derbyn galwad ffôn i drefnu dyddiad addas i ymweld â chi.

Bydd swyddog rheoli plâu y Cyngor yn ymweld â chi rhwng 9.00am a 4.00 pm ddydd Llun i ddydd Gwener. (Bydd yr ymweliadau un ai yn y bore neu'r prynhawn).

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y pris ar gyfer gwahanol fathau o blâu?

Llygod mawr/Llygod
Mae’r gost yn cynnwys tri ymweliad i ddelio â’r broblem. Os bydd angen mwy na thri ymweliad, bydd angen gwneud taliad pellach.  

Mae’r gost uchod yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad ychwanegol, os yw hynny’n angenrheidiol. Bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn yr ymweliad olaf yn cael ei waredu yn unol â chynllun stiwardiaeth gwenwyn llygod i amddiffyn bywyd gwyllt a rhywogaethau nad ydyn nhw’n darged.

Cacwn
Mae’r gost yn cynnwys arolwg cychwynnol a thriniaeth os oes angen. Fel arfer bydd un driniaeth yn ddigon. Serch hynny, os yw’r cacwn yn parhau i symud o fewn 7 diwrnod o’r driniaeth, yna bydd triniaeth ddilynol yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim. Ni fydd y nyth yn cael ei symud.

Gwenyn: Dydyn ni ddim yn trin gwenyn. 
Serch hyny, os ydych chi wedi talu am ymweliad i ddelio â chacwn, a digwydd bod mai gwenyn ydyn nhw, yna byddwch chi’n derbyn cyngor gennyn ni. Efallai y byddwch chi’n gymwys am ad-daliad o 50% o’r tâl. Mae hyn er mwyn talu am y gost ymweliad a chynghori. Cewch eich hysbysu am hyn yn ystod y broses archebu.

Chwain/Chwilod Carped
Ar yr amod eich bod wedi cadw at y canllawiau ar drin anifeiliaid a hwfro’r eiddo, bydd y gost yn cynnwys dwy driniaeth chwistrellu.

Cyn y driniaeth, rhaid i’r eiddo gael ei lanhau yn drylwyr, gan gynnwys hwfro. Bydd y Swyddog Rheoli Plâu yn eich cynghori ar bryd dylai hyn cael ei wneud.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd rhaid archebu hyn.

Llau gwely
Bydd y gost yn cynnwys dwy driniaeth lawn o’r holl leoedd cysgu yn yr eiddo. Dylai’r ail ymweliad fod dau wythnos ar ôl yr ymweliad cyntaf. Dylai deiliaid yr eiddo ddilyn y cyngor a gaiff ei roi iddyn nhw er mwyn sicrhau bod y driniaeth mor effeithiol â phosibl.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd rhaid archebu hyn.

Chwilod Duon
Mae’r gost yn cynnwys uchafswm o dri ymweliad i drin y broblem. Bydd y Swyddog Rheoli Plâu yn rhoi cyngor ar y cyfnod a argymhellir rhwng yr ymweliadau.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd angen archebu hyn.

Morgrug
Mae’r gost yn cynnwys hyd at ddwy driniaeth chwistrellu.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd rhaid archebu hyn.

Canslo'ch apwyntiad.

Dim ond hyn a hyn o swyddogion sydd gyda ni a byddan nhw'n ceisio eu gorau glas i gadw at eu hapwyntiadau gyda chi - byddwn ni'n ddiolchgar pe gallech chi wneud yr un peth.

Os ydych chi'n methu â chadw at eich apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01443 425001 cyn gynted ag y bo modd er mwyn trefnu apwyntiad addas arall.

Colli apwyntiad

Os byddwch chi'n colli apwyntiad rheoli plâu bydd cerdyn galw yn cael ei adael yn eich eiddo. Os ydy'ch triniaeth yn cynnwys mwy nag un ymweliad, bydd hyn yn cyfrif fel un o'ch ymweliadau. Os ydych chi'n colli dau ymweliad, bydd eich triniaeth yn cael ei ganslo a bydd raid i chi dalu am driniaeth arall, yn ôl y costau uchod.

Ar gyfer ymweliadau trin llygod mawr, llygod bach a chwilod duon, mae uchafswm o dri ymweliad. Bydd colli unrhyw apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn cyfrif fel ymweliad.

Ad-daliadau

Mae modd ichi ganslo a chael ad-daliad llawn drwy ffonio 01443 425001 cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu. Os yw Swyddog Rheoli Plâu yn dod i'ch eiddo yn dilyn apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw, yna does dim modd cael ad-daliad.

Tudalennau Perthnasol