Skip to main content

Cymorth Gofal Iechyd

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau gofal iechyd ar draws Rhondda Cynon Taf yn cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Mae cyngor a gwybodaeth fanylach ar gael ar eu gwefan: www.cwmtafmorgannwg.wales <http://www.cwmtafmorgannwg.wales/>

Mae modd i chi ddod o hyd i'ch canolfan gofal iechyd a'ch fferyllfa agosaf yma.

Cofrestru gyda Meddyg Teulu lleol i gael mynediad at ofal iechyd

Mae modd i unrhyw un yng Nghymru gofrestru gyda Meddyg Teulu yn eu hardal leol (doed DIM TÂL am y gwasanaeth yma). Does dim angen prawf o gyfeiriad na statws mewnfudo, dogfennau adnabod na rhif GIG arnoch chi. 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru gyda Meddygfa neu os hoffech chi gael manylion cyswllt y Meddygfeydd yn eich ardal chi, cysylltwch â'r Garfan Gofal Sylfaenol ar y rhifau canlynol:

  • 01685 351341
  • 01685 351226
  • 01685 351303

Neu e-bost CTM.GMSTEAM@wales.nhs.uk

Deintyddol

Os ydyn nhw'n profi poen neu chwydd ac angen apwyntiad brys, dylai cleifion gysylltu â 0300 1235060. Mae'r rhif yma'n weithredol rhwng 9am a 4.30pm yn ystod yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener) a hefyd ar ôl oriau swyddfa rhwng 6.30pm a 8am yn ystod yr wythnos, a 24 awr y dydd ar benwythnosau a gwyliau banc. Os yw'r claf yn bodloni'r meini prawf, bydd yn cael cynnig apwyntiad brys.

Dylai unrhyw glaf sy’n chwilio am ddeintydd ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol ffonio 01685 351366 neu e-bostio CTM.DentalHelpline@wales.nhs.uk

Optometreg

Mae modd i gleifion gysylltu ag unrhyw optometrydd lleol.

Os oes angen unrhyw help neu gyngor ar gleifion, mae modd iddyn nhw gysylltu â’r Garfan Gofal Sylfaenol ar 01685 351310, 01685 351325 neu 01685 351497 neu e-bostio CTM.Primarycareoptometry@wales.nhs.uk

Cymorth Iechyd Meddwl:

Gallai’r sefyllfa yn Wcráin fod yn drawmatig i aelodau o’r teulu, ffrindiau a’r rhai sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Community Advice & Listening Line) ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cymorth. 
Ffôn: 0800 132737 neu anfonwch y gair 'Help' mewn neges destun i 81066.