Skip to main content
Toggle Menu
Dewislen
www.RCTCBC.gov.uk
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
Swyddi
English
Search
Browser does not support script.
O 30/9/24, bydd y Cyngor yn safoni casgliadau gwastraff cyffredinol ledled RhCT. Mae hyn yn golygu na fydd y Cyngor yn casglu gwastraff cyffredinol o finiau ar olwynion.
Rhagor o wybodaeth.
Hafan
Trigolion
Argyfyngau, Diogelwch a Throseddau
Cyngor gan RCT i Eiddo Trwyddedig
Rhaid i bob eiddo sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol ar y safle beidio â gwerthu diodydd alcoholig ar ôl 10pm.
Mae hyn yn golygu bod rhaid stopio gwerthu alcohol am 22:00. Mae modd i fwytai/clybiau/tafarndai roi 20 munud i'r cwsmeriaid orffen eu diod, ac mae rhaid i bob cwsmer fod allan o'r safle a'r drysau wedi'u cau erbyn 22:20. Rhaid i siopau stopio gwerthu alcohol am 22:00.
Gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig.
Does dim hawl cynnig gwasanaeth wrth y bar o ddydd Iau 24 Medi. Rhaid i bobl eistedd yn eu seddi ac aelod o staff i gymryd archebion a gweini bwyd a diod.
Does dim modd i bobl gwrdd dan do ag eraill sydd ddim yn byw gyda nhw.
Rhaid felly i gwsmeriaid eistedd gyda phobl sy'n byw gyda nhw yn unig mewn eiddo trwyddedig. Mae'r Adran Trwyddedu yn argymell i fusnesau ofyn am gerdyn adnabod gan bob aelod o'r grŵp er mwyn sicrhau bod y cyfeiriadau'n cyfateb a’ch bod chi'n glynu at y gofyniad ar eich safle. Rhaid cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng y rheiny sydd ddim yn byw gyda'i gilydd.
Does dim modd i bobl ffurfio aelwyd estynedig mwyach.
Bydd hyn yn effeithio ar seddi yn yr awyr agored gan fod bellach angen cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng aelodau pob aelwyd wahanol. Felly er enghraifft, os oes grŵp o 4 person gyda chi a phob un ohonynt â chyfeiriad gwahanol, rhaid cynnal pellter o 2 fetr rhwng pob person wrth iddyn nhw eistedd wrth y bwrdd.
Oes angen i mi wisgo gorchudd wyneb mewn tafarn/clwb/bwyty?
Mae'r safleoedd yma wedi'u trwyddedu i gwsmeriaid fwyta ac yfed ynddyn nhw, ac felly does dim rhwymedigaeth gyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb yn y safleoedd yma, heblaw eich bod chi mewn ardal lle na chaniateir bwyta nac yfed. Os ydych chi'n cerdded o fewn y safle, e.e. i'r tŷ bach, rydyn ni'n argymell i chi wisgo gorchudd wyneb.
Fydd pobl ddim yn cael mynd i mewn i'r Fwrdeistref, na'i gadael, heb esgus rhesymol.
Dydy mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd ddim yn esgus rhesymol. Dylech chi felly ond ganiatáu i gwsmeriaid ddod i mewn i'ch safle os ydyn nhw'n byw ym Mwrdeistref RhCT. Mae hawl gyda chi i ofyn am brawf o hyn wrth iddyn nhw gyrraedd, a gwrthod cwsmeriaid os nad ydyn nhw'n bodloni'r gofyniad yma.
Siopau diodydd trwyddedig – siopau/archfarchnadoedd
. Rhaid stopio gwerthu alcohol am 10pm, hyd yn oed os oes gyda chi drwydded hwyrach. Mae modd i'r siop aros ar agor ond rhaid stopio gwerthu alcohol am 10pm.
Gorchudd wyneb mewn siopau.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bawb wisgo gorchudd wyneb mewn siop. Os byddwch chi'n methu â chydymffurfio, efallai byddwch chi’n cael dirwy. Does dim cyfrifoldeb ar y staff i orfodi hyn ond mae modd iddyn nhw herio ac atgoffa am y rheolau.
Alffa i Omega o'n Gwasanaethau
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.