Skip to main content

Latest Staff Update 09/07/2020

Annwyl gydweithiwr,

Yn dilyn y cyfathrebiad diweddar ar Covid 19 – Profion Gorfodol, mae'r Cyngor a'r undebau llafur wedi derbyn rhai galwadau yn gofyn am eglurhad ar faterion yn ymwneud â'r profion. Yn seiliedig ar y trafodaethau hynny, ac i sicrhau bod yr holl weithwyr yn deall y protocol profi, hoffwn ddarparu rhywfaint o gyngor ychwanegol fel a ganlyn:

  • Os chi yw'r person cyntaf (achos) i arddangos symptomau a chael prawf, mae modd i chi ddychwelyd i'r gwaith naill ai ar ôl derbyn eich canlyniad prawf negyddol neu 7 diwrnod ar ôl datblygu symptomau, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Rhaid bod dim tymheredd uchel gyda chi am o leiaf 48 awr cyn i chi orffen hunanynysu;
  • Os ydych chi wedi'ch nodi fel Cyswllt o achos wedi'i gadarnhau (prawf cadarnhaol), bydd gofyn i chi hunanynysu am 14 diwrnod. Os byddwch chi'n datblygu symptomau yn ystod y cyfnod yma, rhaid i chi gael prawf ar frys. Os yw canlyniad y prawf hwnnw'n negyddol, rhaid i chi barhau i hunanynysu am 14 diwrnod a pheidio â dychwelyd i'r gwaith nes bod eich cyfnod hunanynysu wedi dod i ben. "

Cofion cynnes

Yr Uwch Garfan Rheoli