Skip to main content

YMATEB Y GYMUNED I LIFOGYDD A CHEFNOGAETH GAN WIRFODDOLWYR

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio ar y cyd gyda Cyngor ar Bopeth, Too Good to Waste, Grwpiau Cymunedol, Cynghorwyr, a nifer o unigolion a gwasanaethau wrth gydlynu'r ymateb i’n cais am roddion a gwirfoddolwyr.

Rydyn ni wedi derbyn ymateb arbennig, nifer fawr o roddion ac mae sawl cais am gefnogaeth a chyngor wedi ein cyrraedd ac rydyn ni wrthi'n ymateb iddyn nhw.

Mae'r gwaith caled a'r bartneriaeth hyd yma, gan Gynghorwyr, Gwasanaethau'r Cyngor, Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddolwyr, wedi golygu bod y rhan fwyaf o'n strydoedd bellach yn glir ac mae modd paratoi i bobl ddychwelyd i'w cartrefi, wedi i Asesiadau Yswiriant gael eu cwblhau.

Mae Canolfannau a Grwpiau Cymunedol wedi nodi eu bwriad i symud rhai o'r rhoddion o'r canolfannau a'r pwyntiau dosbarthu lleol, felly ry'n ni wedi sefydlu nifer o Ganolfannau Casglu, yn ogystal â thri Depo Dosbarthu a Didoli ar draws RhCT.

Canolfannau Casgluholl Lyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden yn RhCT:

Mae rhai Canolfannau a Grwpiau Cymunedol yn derbyn rhoddion, felly gwiriwch y wybodaeth leol ar Facebook neu ar Gyfryngau eraill am fanylion.

Gwirfoddolwyr:

Helpu unigolion i reoli unrhyw effaith ar eu cartrefi – Glanhau a helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi lle bo hynny'n bosibl

Helpu yn ein Canolfannau Cymunedol – ymateb yn uniongyrchol i anghenion y gymuned

Gweithwyr â sgiliau penodol – Plastrwyr, Addurnwyr, Plymwyr, Trydanwyr ac arbenigwyr nwy a gwres

Gyrwyr – Rhaid sicrhau digon o yrwyr er mwyn dosbarthu rhoddion at bobl yn ein Cymunedau.

Os ydych chi eisoes wedi rhoi’ch manylion cyswllt i'r garfan, diolch yn fawr iawn i chi ymlaen llaw. Bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Rhoddion:

O ganlyniad i'r ymateb rhyfeddol hyd yn hyn, bellach mae gyda ni ddigon o ddillad a theganau (am y tro). Hoffai'r Cyngor estyn ei ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu.

Ar ôl i ni orffen didoli'r eitemau sydd eisoes wedi dod i law, byddwn ni'n rhoi gwybod i drigolion a busnesau a oes angen unrhyw eitemau dillad neu deganau penodol.

Deunyddiau ac Offer

Mae ambell i eitem y mae pobl yn gofyn amdanyn nhw o hyd, yn benodol:

  • Bwyd – mewn tun neu fwyd wedi'i sychu (dim byd ffres) – eitemau sydd ddim yn ddarfodus sy'n cael eu cadw yn y stordy/cwpwrdd fel rheol
  • Glanweithydd dwylo a deunyddiau ymolchi – sebon, siampŵ, brwsys dannedd (plant ac oedolion), past dannedd
  • Tywelion bath, llieiniau sychu llestri, llieiniau ymolchi, cribau, brwsys, ac ati.
  • Dillad gwely, cwiltiau (glân/newydd) a gobenyddion (newydd)
  • Offer i'r gegin – sosbenni, dysglau i'r ffwrn, cyllyll a ffyrc – popeth sydd mewn cegin fel arfer
  • Offer trydanol i'r gegin – (rhaid iddo fod yn newydd a heb ei ddefnyddio) e.e. tegell, tostiwr, microdon
  • Eitemau plastig y mae modd eu gwaredu – e.e. cyllyll a ffyrc plastig
  • Esgidiau glaw – i oedolion a phlant
  • Dadleithyddion (peiriant tynnu dŵr a lleithder)

Ar gyfer rhoddion mawr trydanol neu nwyddau i'r cartref, neu os oes angen unrhyw un o'r eitemau yma arnoch chi, cysylltwch â Too Good to Waste neu ewch i'w gwefan.

Os ydych chi am helpu mewn unrhyw ffordd, ffoniwch 01443 452001 neu e-bostio RhyddhadLlifogydd@rctcbc.gov.uk