Skip to main content

Gostyngiad Treth y Cyngor i berson sengl - Gwneud cais

Mae pris llawn y bil Treth y Cyngor yn seiliedig ar ddau oedolyn yn byw yn yr eiddo. 

Os oes dim ond un person (18 oed neu'n hŷn) sy'n byw yn yr eiddo, byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad person sengl o 25%.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni benderfynu ble mae prif gartref y person dan sylw. Er enghraifft, os yw'r person yn gweithio oddi cartref neu os oes mwy nag un cartref gan y person.

Mae modd i chi wneud cais ar-lein am ostyngiad Treth y Cyngor i berson sengl 
Pe hoffech chi ganslo'ch gostyngiad i berson sengl, cwblhewch y ffurflen Treth y Cyngor - Canslo Gostyngiadau neu Eithriadau

Bydd rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor hyd nes y bydd canlyniad eich cais wedi ei benderfynu. Os bydd hyn yn achosi unrhyw broblem, cysylltwch â ni ar unwaith neu ewch i'r dudalen Trafferth Talu.

Canslo gostyngiad person sengl ar-lein 

Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newid i'ch amgylchiadau personol, trefniadau preswyl neu sefyllfa o ran arian/incwm a all effeithio ar eich hawl i ostyngiad. 

Ysgrifennwch at:

Tŷ Oldway

Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708