Skip to main content

Y dreth gyngor ac ardrethi busnes

Os yw eich cartref neu'ch busnes wedi'i effeithio gan y llifogydd o ganlyniad i Storm Dennis, cofiwch am y Cyngor yma mewn perthynas â thaliadau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes:

Treth y Cyngor

Efallai fod eich eiddo bellach wedi'i eithrio o ran Treth y Cyngor, yn amodol ar nifer o amgylchiadau penodol. Dyma nhw:

Dosbarth A - Anheddau sydd angen gwaith trwsio sylweddol neu addasiadau strwythurol fel bod modd byw ynddo, neu anheddau lle mae'r gwaith yma'n mynd rhagddo eisoes.

Bydd yr eiddo wedi'i eithrio am hyd at 12 mis cyn belled â'i fod yn wag a:

  • Bod yr eiddo angen gwaith addasu strwythurol, neu fod gwaith o'r fath yn mynd rhagddo
  • Bod gwaith addasu strwythurol yn mynd rhagddo, neu
  • Bod gwaith trwsio sylweddol neu waith addasu strwythurol wedi mynd rhagddo yn yr eiddo fel bod modd byw ynddo, a bod llai na chwe mis wedi mynd heibio ers gorffen y rhan helaeth o'r gwaith hwnnw, a'r eiddo wedi bod yn wag ers y dyddiad hwnnw - hynny yw, os cafodd y gwaith ei gwblhau ar ôl 3 mis, mae modd eithrio'r eiddo am uchafswm o 9 mis.

Dosbarth C - Eiddo sydd wedi'u gwacáu

Os caiff eiddo ei adael yn wag a heb ei ddodrefnu, yna caiff ei eithrio am hyd at 6 mis. Bydd yr eithriad yn cychwyn o'r dyddiad y caiff yr eiddo ei adael yn wag a heb ei ddodrefnu.

Os oes un o'r sefyllfaoedd uchod yn berthnasol ar gyfer eich cartref chi, llenwch y ffurflen gais isod a bydd y Cyngor yn cysylltu â chi er mwyn trefnu archwiliad, os oes angen gwneud hynny:

Os ydych chi wedi gorfod symud allan o'ch cartref dros dro, neu'n barhaol, dylech roi gwybod i uned Treth y Cyngor fel bod modd diweddaru'ch cofnodion. Llenwch y ffurflen newid cyfeiriad isod:

Ardrethi Busnes

Eiddo eithriedig

Er bod gofyn talu ardrethi busnes ar y rhan helaeth o eiddo busnes, hyd yn oed os ydyn nhw'n wag, mae nifer o eithriadau i'r rheol hon. Caiff eiddo megis siopau a swyddfeydd eu heithrio am y 3 mis cyntaf ar ôl cael eu gwacáu, a chaiff safleoedd diwydiannol eu heithrio am 6 mis cyntaf ar ôl cael eu gwacáu. Os yw eich eiddo busnes yn wag o ganlyniad i ddifrod gan Storm Dennis, anfonwch e-bost at refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Nodwch yr holl fanylion am eich amgylchiadau fel bod modd adolygu'ch achos a threfnu archwiliad o'ch safle.

Effaith ar Ran o'ch Eiddo

Os yw'r llifogydd wedi'ch atal rhag defnyddio rhan o'ch eiddo busnes, ond eich bod chi'n dal i gynnal eich busnes o ran arall o'r safle, mae modd i'r Cyngor eich helpu i roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am hyn. Yr Asiantaeth sy'n gyfrifol am bennu gwerth ardrethol eich eiddo busnes. Bydd yr Asiantaeth yn adolygu'ch achos, ac efallai’n lleihau gwerth ardrethol eich eiddo am hyd at 6 mis. Bydd hyn yn golygu y byddwch chi'n talu llai o ardrethi busnes tra bod yr amodau hyn ar waith. Os fydd hyn o gymorth i'ch busnes chi, cysylltwch â'r Cyngor ar refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk.