Skip to main content

Treth y Cyngor – Newid mewn amgylchiadau

I wneud yn siŵr eich bod chi'n talu'r swm cywir o Dreth y Cyngor, rhaid i chi ddweud wrthon ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol.

Newid y Cyfeiriad:

Llenwch y ffurflen yma os ydych chi'n symud o fewn Rhondda Cynon Taf, i mewn iddi neu allan ohoni.

Dydw i ddim yn gymwys ar gyfer gostyngiad mwyach:

Rhowch wybod inni os nad ydych bellach yn gymwys i gael disgownt yr ydych yn ei gael e.e. disgownt pobl sengl, disgownt myfyriwr drwy lenwi'r Ffurflen canslo gostyngiad neu eithriad ar-lein.

Landlord - Tenant Gwahanol:

Llenwch ein ffurflen Newid Mewn Tenantiaeth i roi gwybod am newid mewn tenantiaeth yn eich eiddo.

Ydych chi'n derbyn Budd-daliadau Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor?

Os ydych chi'n derbyn Budd-daliadau Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor, ac mae'ch amgylchiadau chi wedi newid, mae rhaid i chi ddweud wrthon ni. 

Rhoi gwybod i ni am farwolaeth:

Rhoi gwybod i ni am farwolaeth a all arwain at ordaliad Treth y Cyngor neu ostyngiad. Mae modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Unwaith yn Unig. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith bydd angen i chi roi manylion y person sydd wedi marw, a byddwn ni'n gwneud y trefniadau angenrheidiol mewn perthynas â'i gyfrif e / ei chyfrif hi.

Cysylltu â ni

Treth y Cyngor

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708

Tudalennau Perthnasol