Skip to main content

Am ba mor hir y bydda i'n derbyn gofal a beth mae modd i mi ei ddisgwyl?

Am ba mor hir y bydda i'n derbyn gofal?

Mae modd i hyn ddibynnu ar lawer o sefyllfaoedd. Weithiau mae pobl ifainc yn mynd i mewn i'r system ofal pan fyddan nhw'n fabanod. Mae rhai pobl ifainc yn hŷn ac yn treulio amser byr cyn mynd yn ôl i fyw gyda'r rhieni.

Os na fyddi di'n mynd yn ôl i fyw gyda dy rieni, mae modd i ti dderbyn gofal nes dy fod di'n 18 oed. Pan fyddi di’n troi’n 18 oed ac yn troi’n oedolyn, byddi di hefyd yn dod yn berson sy'n gadael gofal neu'n dod yn rhywun sydd â 'phrofiad o dderbyn gofal'. Mae modd i ni dy gefnogi di hyd nes dy fod di'n 25 oed. Gwybodaeth ar gyfer unigolion sy’n 16 oed a hŷn | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Beth yn union fydd yn digwydd?

Pan fyddi di'n dod i mewn i'r system ofal, rydyn ni'n dod yn 'Rhieni Corfforaethol'. Mae hyn yn golygu bod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyfrifoldeb i ofalu amdanat ti yn rhan o'n haddewid ar gyfer plant a phobl ifainc. Mae hwn yn egluro sut y byddwn ni'n gofalu amdanat ti ac yn dy helpu i lwyddo.