Skip to main content

Grant Hanfodion Ysgol 24/25 (AR GYFER DYSGWYR SYDD WEDI'U COFRESTRU AR GYFER MEDI 2024)

Mae cyllid Grant Hanfodion Ysgol 24-25 Llywodraeth Cymru ar gael i ddysgwyr o 4 oed sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim ac sydd ar fin dechrau yn y Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11. Gwerth y cyllid grant a ddyfernir yw £125 ar gyfer pob grŵp blwyddyn a £200 ar gyfer Blwyddyn 7.

Os yw dysgwr eisoes yn cael pryd o fwyd am ddim yn rhan o 'Gynllun Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru', yna fyddan nhw ddim yn cael mynediad at y cyllid grant. Rhaid dyfarnu Prydau Ysgol Am Ddim i ddysgwr trwy'r broses ymgeisio er mwyn iddyn nhw gael eu hystyried ar gyfer y grant.

Gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim 

Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim

Fel arall, os nad ydych wedi gwneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim o’r blaen a bod angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, anfonwch e-bost at y garfan:

Bydd Grant Hanfodion Ysgol 24-25 ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u cofrestru ar gyfer mis Medi 2024 ar agor o 1 Gorffennaf 2024. Bydd ysgolion yn cael gwybod am ddysgwyr cymwys a bydd y garfan yn cysylltu â theuluoedd yn fuan ar ôl y dyddiad hwn gyda chod 'SEG24' a'r ddolen er mwyn cyflwyno cais.

Os na fydd ysgol eich plentyn yn cysylltu â chi cyn diwedd Tymor yr Haf e-bostiwch y garfan am ragor o gymorth: