Os yw'n ymddangos bod eich plentyn/plant (neu blentyn sydd dan eich gofal) mewn perygl o niwed/neu'n dioddef o niwed ond nad ydyn nhw mewn perygl uniongyrchol, byddwn ni'n cynnal ymchwiliad.
Caiff hyn ei fanylu o dan Adran 47 o Ddeddf Plant 1989 a chyfeirir ato'n aml fel Ymchwiliad Amddiffyn Plant (Adran 47). Yn rhan o'r broses yma, bydd Gweithiwr Cymdeithasol eisiau gweld eich plentyn a siarad â'ch plentyn (os yw'n eiriol) i gael gwybod sut beth yw bywyd iddyn nhw, beth sy'n bwysig i chi a'ch plentyn ac unrhyw newidiadau rydych chi am eu gwneud. Byddan nhw eisiau siarad â chi a phobl eraill yn eich rhwydwaith er mwyn helpu i gasglu gwybodaeth a gwneud penderfyniad ynghylch a yw eich plentyn mewn perygl sylweddol o niwed.
Deilliannau'r Ymchwiliad
- Dim gweithredu pellach – os nad yw eich plentyn/plant wedi cael eu niweidio ac nad ydyn nhw mewn perygl o gael eu niweidio (efallai y bydd cymorth trwy Gymorth Cynnar).
- Cynnal asesiadau pellach i ddarparu gofal a chymorth.
- Os caiff ei asesu bod eich plentyn/plant mewn perygl o niwed sylweddol, bydd Cynhadledd Achos Gychwynnol yn cael ei galw (Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol) cyn pen 15 diwrnod.
- Os yw eich plentyn mewn perygl uniongyrchol, byddai'r camau a gaiff eu rhestru o dan 'Pryderon Uniongyrchol' yn cael eu rhoi ar waith.