Skip to main content

Beth os yw fy mhlentyn mewn Gofal Preswyl?

Yn Rhondda Cynon Taf, mae gyda ni nifer o ddarpariaethau gofal preswyl ar gyfer plant/pobl ifainc sy'n derbyn gofal/sydd â phrofiad o dderbyn gofal.

Beth yw Ymarferydd Gofal Plant Preswyl?

Bydd Ymarferydd Gofal Plant Preswyl yn gweithio gyda'ch plentyn i'w helpu i gyflawni ei nodau a'i gefnogi o ddydd i ddydd. Rydyn ni'n aml yn defnyddio chwarae i gyfathrebu, ac ein nod yw sicrhau bod pob un o'r ymarferwyr yma wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant i ddeall a helpu plant sy'n adfer o drawma maen nhw wedi'i brofi yn ystod eu bywydau. Rydyn ni hefyd yn derbyn cymorth gan seicolegwyr sy'n rhan o'r gwasanaeth i sicrhau ein bod ni'n darparu'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu anghenion eich plentyn. 

Mae'r ymarferwyr yma'n cynnig gofal a chymorth bob dydd i gynorthwyo'ch plentyn i gyflawni ei nodau.