Skip to main content

Beth yw Atgyfeiriad?

Yn y Gwasanaethau i Blant, rydyn ni weithiau'n derbyn gwybodaeth gan ystod o wahanol bobl, gan gynnwys yr ysgol (addysg), yr heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, aelodau'r cyhoedd neu gennych chi wrth i chi awgrymu bod angen gofal a chymorth ar eich plentyn/plant/teulu yn ychwanegol at yr hyn a gaiff ei ddarparu gennych chi a'ch teulu.

Os ydyn ni'n meddwl nad oes modd i'ch anghenion gael eu diwallu trwy Gymorth Cynnar gan fod eich plentyn/teulu angen lefelau uwch o gefnogaeth (er enghraifft, os oes gan blentyn anabledd), yna mae gyda ni ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad. Caiff hyn ei amlinellu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ei gymorth gyda'r animeiddiadau.