Skip to main content

O Gynllun Amddiffyn Plant i Gynllun Gofal a Chymorth

Weithiau mae eich plentyn/plant (neu blant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw) wedi bod yn destun Cynllun Amddiffyn Plant, ond dydyn ni ddim o'r farn eu bod mewn perygl bellach.

Mae'n bosibl y bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn awgrymu y byddai eich plentyn a'ch teulu'n elwa o gymorth ac yn argymell Cynllun Gofal a Chymorth. Efallai y byddai'n ddefnyddiol o ran rhoi cymorth â rhai o'r pethau sydd eu hangen ar eich plentyn. Does dim rhaid i chi dderbyn cymorth drwy Gynllun Gofal a Chymorth ac mae modd dewis terfynu eich cysylltiad â ni.