Skip to main content

Cylchlythyrau Cynhalwyr

Mae Newyddion i Gynhalwyr yn gylchlythyr rheolaidd sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am faterion, gwasanaethau a datblygiadau newydd a all effeithio arnoch chi, neu'r person rydych chi'n gofalu amdano.

Mae modd i chi ddarllen rhifynnau Newyddion i Gynhalwyr sydd wedi bod, a'r rhifyn cyfredol, drwy glicio ar y dolenni isod. Fel arall, cysylltwch â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr i ofyn am gopïau.

Mae Newyddion i Gynhalwyr sy'n Gweithio yn gylchlythyr rheolaidd ar gyfer staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldebau gofalu. 

Bwriad y cylchlythyr yw rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch helpu chi i ymdopi â'ch gwaith a'ch rolau gofalu.

Mae modd gweld rhifynnau presennol a blaenorol o gylchlythyrau Newyddion i Gynhalwyr sy'n Gweithio isod.

Os hoffech chi gael y cylchlythyr yma a gwybodaeth berthnasol arall yn uniongyrchol drwy e-bost, llenwch y ffurflen yma:  Ffurflen Ymuno - Rhestr Bostio Cynhalwyr sy'n Gweithio

Os oes cwestiynau gyda chi, anfonwch e-bost: CynhalwyrSynGweithio@rctcbc.gov.uk

Gweithgareddau Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

Ymunwch â ni yng Nghynllun Cynnal y Cynhalwyr a chymryd rhan yn ein grwpiau, achlysuron a hyfforddiant.

I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: 01443 281463 neu e-bostio: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Cysylltu â ni:

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf 

E-bost: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk

 Ffôn: 01443 281463