Skip to main content

Taliad ar gyfer Cynhalwyr Di-dâl

Mae taliad untro gwerth £500 ar gael i bob cynhaliwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr (Cynhaliwr) ar 31 Mawrth 2022

Nodwch:

Roedd y cynllun yma ar gael yn wreiddiol rhwng 16 Mai 2022 a 15 Gorffennaf 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailagor y broses gofrestru am gyfnod o 3 wythnos rhwng 9am ar 15 Awst 2022 a 2 Medi 2022.

Nodwch: Nid dyma gynllun newydd. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yma yn ystod y cyfnod cofrestru gwreiddiol ac wedi derbyn canlyniad mewn perthynas â'ch cais (h.y. taliad neu gadarnhad sy'n nodi nad ydych chi'n gymwys), does dim angen i chi ailgyflwyno cais.

DYMA BORTH COFRESTRU AR-LEIN AR GYFER CEISIADAU NEWYDD YN UNIG.

Mae’r taliad yma'n cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol y mae nifer o gynhalwyr di-dâl wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhywfaint o’r costau ychwanegol y maen nhw wedi’u hysgwyddo. Mae’r taliad wedi’i dargedu at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ag incwm isel.

 Nid yw unigolion yn gymwys ar gyfer y taliad;

  • os oes ganddyn nhw hawl sylfaenol i gael lwfans gofalwr, ond dydyn nhw ddim yn derbyn y taliad hwnnw oherwydd eu bod yn cael budd-dal arall sydd gyfwerth neu uwch; neu
  • os ydyn nhw ond yn derbyn premiwm gofalwr yn rhan o fudd-dal prawf modd

I gael rhagor o wybodaeth, manylion ynghylch pwy sy'n gymwys ac amodau cofrestru, bwriwch olwg ar ein Taflen ffeithiau - Cynllun Cymorth Ariannol i Ofalwyr (Cynhalwyr) Di-dâl

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys i dderbyn y cymorth yma a dydych chi ddim wedi cyflwyno cais, na derbyn taliad rhwng 15 Mai 2022 a 16 Gorffennaf 2022, mae modd i chi gyflwyno cais drwy ddefnyddio'r ddolen isod o 9am ddydd Llun 15 Awst 2022.

Cofrestrwch nawr ar gyfer y taliad i gynhalwyr di-dâl

Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 2 Medi 2022. Bydd taliadau ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud rhwng mis Awst a diwedd mis Hydref 2022.

Nodwch

Mae CBSRhCT yn gweinyddu'r taliad yma ar ran Llywodraeth Cymru, cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth am sut bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio.