Skip to main content

Taflen Ffeithiau - Cynllun Cymorth Ariannol i Gynhalwyr Di-dâl

Trosolwg o'r Taliad Cymorth i Gynhalwyr Di-dâl

Mae Gweinidogion Cymru yn dyfarnu taliad untro o £500 i gynhalwyr di-dâl. Mae’r taliad yma'n cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol y maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhywfaint o’r costau ychwanegol y maen nhw wedi’u hwynebu.

Mae’r taliad yma ar gyfer yr unigolion hynny sy'n darparu o leiaf 35 awr o ofal bob wythnos ac sydd ar incwm isel. Bydd y taliad ar gael i bob cynhaliwr di-dâl cymwys a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr (Cynhaliwr) ar 31 Mawrth 2022.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y taliad?

Mae modd gwneud taliad yn rhan o'r cynllun yma os yw'r unigolyn sy'n cyflwyno'r cais yn bodloni'r amodau sy'n gysylltiedig â'r broses gofrestru, hawl i fudd-daliadau a ble rydych chi’n byw fel sydd wedi'u hamlinellu isod.

Amod Cofrestru

Bydd unigolyn yn bodloni’r amod hwn os bydd yr awdurdod lleol yn derbyn ei ffurflen gofrestru ar gyfer y cynllun erbyn 5pm ar 2il o fedi 2022.

Amod sy'n ymwneud â Hawl i Fudd-daliadau

Mae unigolyn yn bodloni’r amod hwn os oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr (Cynhaliwr) ar 31 Mawrth 2022, neu os dyfarnwyd Lwfans Gofalwr (Cynhaliwr) iddo a chafodd ei ôl-ddyddio i 31 Mawrth 2022. 

Nid yw’r amod hwn yn cael ei fodloni os oes gan yr unigolyn hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr neu os yw ond yn derbyn premiwm gofalwr yn rhan o fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd.

Amod sy'n ymwneud â ble rydych chi’n byw

Rhaid i unigolion sy'n cofrestru ar gyfer y taliad fyw yng Nghymru. Dylai unigolion gofrestru gyda'u Hawdurdod Lleol (nid Awdurdod Lleol y person sy'n derbyn gofal). Mae hyn oherwydd bod y cyllid wedi'i ddyrannu ar sail faint o bobl sy'n byw ym mhob Awdurdod Lleol ac sy'n derbyn Lwfans Gofalwr (Cynhaliwr).

Amod sy'n ymwneud â'r taliad

Mae unigolyn yn bodloni’r amod hwn os nad yw ef/hi eisoes wedi derbyn taliad yn rhan o'r cynllun yma.