Skip to main content

#ArwyryGymdogaethRhCT - Rebecca Fox and James Parry

Rheswm dros enwebu: Ar ddechrau pandemig Covid-19, roedd Rebecca'n poeni y byddai nifer o'i chymdogion wedi'u hynysu oherwydd y cyfyngiadau symud, felly aeth ati i greu grŵp Facebook ar gyfer y stryd er mwyn dod â phawb at ei gilydd a rhannu syniadau.  Daeth James yn rhan o'r grŵp, ac fe aeth Rebecca a James ati i wneud yn siŵr bod trigolion Stryd Dyfodwg yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned sy'n gallu dibynnu ar ei gilydd.  Roedd y grŵp Facebook yn llwyddiant mawr, gyda nifer o'r cymdogion yn ymuno. Mae 60-70 aelod yn rhan o drafodaeth y grŵp bellach gyda thrigolion Stryd Dyfodwg a Stryd Illtyd yn cymryd rhan.

Trefnodd James i osod baneri ar hyd y stryd er mwyn codi gwên. Fe gyfrannodd pawb yn y stryd at yr addurniadau, gyda nifer o drigolion yn helpu'u gosod nhw. 

Mae Rachel yn trefnu 'Bingo Stryd', gan gadw pellter cymdeithasol, bob nos Sadwrn. Mae modd i drigolion chwarae o'u gerddi. Gan fod trigolion hŷn wedi methu â gadael eu tai am 13 wythnos, mae'n ffordd wych o ddod â phawb at ei gilydd a chodi calonnau pawb.

Bunting

Mae'r bingo hefyd wedi bod yn ffordd o godi arian ar gyfer achosion da, gyda phawb yn y stryd yn cyfrannu £2 bob wythnos.  Mae'r trigolion wedi cytuno y bydd hanner yr arian yn mynd tuag at barti stryd pan fydd pandemig y Coronafeirws yn dod i ben, ac mae'r hanner arall yn cael ei roi i elusennau a gweithwyr allweddol.

Hyd yma, maen nhw wedi codi arian i Orsaf Dân Treorci, Gwasanaeth Ambiwlans y Gelli, Clwb Bechgyn Treorci, Ward 1 Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y postmon lleol, a'r rhai sy'n casglu'r Gwastraff ac Ailgylchu.  Mae trigolion Stryd Dyfodwg yn dweud mai dyma yw eu ffordd nhw o ddweud diolch am helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Cafodd nifer o weithgareddau eraill eu trefnu i godi calonnau pawb, gan gynnwys trefnu blodau a baneri fel syrpreis i Joyce, oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 82 oed! 

Mae Rebecca a James wedi bwrw ati'n frwd i dynnu cymuned fechan, hyfryd ynghyd, gyda phawb yn cefnogi'i gilydd mewn cyfnod hynod anodd.