Skip to main content

#ArwyryGymdogaethRhCT - Circle of care

Rheswm dros enwebu: Ar ôl gweld y dewrder a'r caredigrwydd y mae gweithwyr rheng flaen anhygoel wedi'u dangos yn ystod pandemig Covid-19, teimlai Natalie, Jamie a Jacqueline fod angen iddyn nhw ddangos eu cefnogaeth a gadael i'r nifer fawr o weithwyr rheng flaen eraill yr oedd angen cydnabyddiaeth am eu hymdrechion rhyfeddol wybod eu bod yn gefn iddyn nhw ar bob achlysur.

Ar ôl gweld cynifer o grwpiau gwych yn codi arian i'r GIG, penderfynon nhw sefydlu 'Circle of Care' er mwyn cefnogi'r cartrefi preswyl a nyrsio lleol sy'n gwneud aberth enfawr i ofalu am ein teuluoedd a'n ffrindiau ni. Mae gan Natalie, Jamie a Jacqueline brofiad personol o'r gwaith gwych y mae'r staff mewn cartrefi nyrsio preswyl yn ei ddarparu, felly penderfynon nhw sefydlu 'Circle of Care' i godi arian er mwyn gwobrwyo preswylwyr a gweithwyr holl gartrefi gofal RhCT. Eu nod oedd dangos yr un caredigrwydd mae'r gweithwyr yn ei ddangos i'r rhai mewn gofal ac i'w hatgoffa eu bod yn gwerthfawrogi popeth mae'n nhw'n ei wneud.

COC3

Hyd yma, mae 'Circle of Care' wedi darparu pecynnau gofal o ddanteithion a deunyddiau ymolchi i bob un o'r 36 o gartrefi gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd yn cynnal sioeau a chwisiau byw ar ei dudalen Facebook i gynnal hwyliau ac ysbryd y preswylwyr a'r gweithwyr hynny.

Mae 'Circle of Care' bellach yn ehangu ei ffocws ac am wobrwyo gweithwyr a phreswylwyr Byw â Chymorth a bydd yn parhau i ddarparu pecynnau gofal i gynhalwyr haeddiannol, diolch i gymorth y rhoddion caredig gan y cyhoedd.

COC5

 

COC1
COC2
CO4