Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn y tymor canolig ac rydyn ni'n ystyried amrywiaeth o ddewisiadau er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid.
O ganlyniad i hyn, rydyn ni'n ystyried newid y Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, fel bod ein darpariaeth yn cyd-fynd yn well â gofynion trafnidiaeth statudol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r Cyngor allu: -
- cynnal fforddiadwyedd o fewn cyfyngiadau ariannol yn y dyfodol;
- parhau i fodloni ei ofynion statudol;
- parhau i ddarparu cludiant dewisol ar gyfer ei ddefnyddwyr mwyaf agored i niwed (hynny yw, disgyblion ag ADY).
Mae'r Cyngor yn cydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad estynedig yn rhoi cyfle pellach i'r rhai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig a mapiau i'w gweld yn y rhestr Cwestiynau Cyffredin yma.
Mae modd bwrw golwg ar yr adroddiad llawn i'r Cabinet (gan gynnwys yr Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg) yma o dan eitem 71.
Daw’r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 8 Chwefror 2024.
Os ydych chi eisoes wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma, does dim angen cyflwyno ymateb arall.
Byddwn ni'n cynnal 3 sesiwn galw heibio lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau i'n Swyddogion a llenwi'r arolwg.
- Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Wen 29 Ionawr 2024, 4pm-7pm
- Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr 30 Ionawr 2024, 12pm-2pm, 4pm-7pm
- Canolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach, Tylorstown 31 Ionawr 2024, 4pm-7pm
Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfodydd.
Mae modd i chi hefyd...
E-bostio ni - YmgynghoriadCludoDisgyblion@rctcbc.gov.uk
Ysgrifennu aton ni:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffonio:
Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,
Rhif Ffôn: 01443 425014 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.