Skip to main content

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF (DEUOLI A4119 COED-ELÁI) GORCHYMYN PRYNU GORFODOL 2020

Bydd y Cynllun yn darparu ffordd gerbydau ddeuol, dwyffordd, hir 1.5km o hyd ar hyd yr A4119 ger Coed-elái rhwng cylchfan Pencadlys Gwasanaeth Tân De Cymru a chylchfan Coed-elái. Bydd hyn yn disodli'r ffordd gerbydau sengl dwyffordd sydd rhwng cylchfan Pencadlys Gwasanaeth Tân De Cymru a chylchfan Coed-elái ar hyn o bryd. Bydd Llwybr i'r Gymuned 3 metr o led yn dilyn yr A4119 yng Nghoed-elái ar hyd ochr orllewinol y ffordd gerbydau ac yn cysylltu gyda chylchfan Parc Busnes Llantrisant i'r llwybr beicio gyda mynedfa ger cylchfan Coed-elái.
A4119-coedely
A4119-roundabout

Bydd pont deithio llesol yn cael ei gosod i'r de o Gylchfan Coed-elái i ganiatáu i gerddwyr a beicwyr groesi o'r llwybr cymunedol a rennir newydd i mewn i Goed-elái. Bydd y bont droed a'r llwybr amlddefnydd yn rhoi cyfle i weithwyr lleol y datblygiad newydd yng Nghoed-elái i gerdded neu feicio i'r gwaith a lleihau eu dibyniaeth ar geir. Dydy'r Cynllun ddim yn effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus.

Bydd y ffordd gerbydau ar y bont ffordd i'r gogledd o gylchfan Coed-elái yn cael ei lledaenu er mwyn galluogi 2 lôn uno oddi ar y gylchfan, yn seiliedig ar safonau Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd.

Y Cam Nesaf - Prynu Gorfodol - Cadarnhau'r Gorchymyn

Cafodd y Gorchymyn Prynu Gorfodol ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio i'w gadarnhau ar 16 Rhagfyr 2020. Ar 2 Mawrth 2021, dywedodd yr Arolygiaeth Gynllunio bod nifer o wrthwynebiadau wedi dod i law ac oni bai bod y rhain yn cael eu tynnu'n ôl, mae Gweinidogion Cymru yn cynnig cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus i'r Gorchymyn. Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gyflwyno Datganiad Achos yn cynnwys manylion llawn yr achos yr oeddent am ei gyflwyno yn yr ymchwiliad. Cafodd y Datganiad Achos ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio ar 13 Ebrill 2021. Yn dilyn trafodaethau gyda thirfeddianwyr dilëwyd yr holl wrthwynebiadau i'r Gorchymyn ac o ganlyniad nid oedd unrhyw ofyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Ar 28 Mawrth 2022 ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Cyngor yn awdurdodi'r Cyngor i gadarnhau'r Gorchymyn Prynu Gorfodol. Ar 14 Ebrill 2022, cadarnhaodd y Cyngor y Gorchymyn Prynu Gorfodol a chyhoeddwyd yr hysbysiad cadarnhau yn y Western Mail ar 11th Mai 2022.

Mae copïau o'r dogfennau sy'n berthnasol i gyflwyniad Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Deuoli'r A4119, Coed-elái) 2020 i'w gweld yn y dolenni isod.

Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Cau Mynediad Preifat i Safle - Deuoli'r A4119, Coed-elái) 2020

Gwnaethpwyd Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Cau Mynediad Preifat i Safle - Deuoli'r A4119, Coed-elái) 2020 ('Y Gorchymyn Cau Mynediad Preifat') ar 24 Tachwedd 2020.

Effaith y Gorchymyn Cau Mynediad Preifat yw cau mynedfeydd preifat i eiddo sy’n ffinio ac yn gyfagos i’r A4119, a fydd yn cael eu heffeithio gan Ddeuoli’r A4119.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau.  Cadarnhawyd y Gorchymyn Cau Mynediad Preifat gan y Cyngor ar 14 Ebrill 2022.  Bydd hysbysiad o gadarnhad o'r Gorchymyn Cau Mynediad Preifat yn cael ei gyhoeddi yn y Western Mail ar 11th Mai 2022.

Mae copïau o'r dogfennau sy'n berthnasol i gadarnhad Gorchymyn (Cau Mynediad Preifat i Safle - Deuoli'r A4119, Coed-elái) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2020 ar gael drwy'r dolenni isod.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Deuoli’r A4119, Coed-elái) Gorchymyn Prynu Gorfodol 2020

Datganiad Achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2021

Hysbysiad i'r Wasg/Wefan

Gorchymyn Prynu Gorfodol 2020 Datganiad o’r Rhesymau

Mapiau y Cyfeirir Atyn Nhw yng Ngorchymyn (Deuoli’r A4119, Coed-elái) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (1 of 2)

Mapiau y Cyfeirir Atyn Nhw yng Ngorchymyn (Deuoli’r A4119, Coed-elái) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2 of 2) 

Gorchymyn (Cau Mynedfa Breifat i Eiddo ar A4119 Deuoli Coed-elái) 2020 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Hysbysiad i'r Wasg/Wefan

Datganiad o'r Rhesymau dros Gau Mynediad Preifat at Eiddo

Mapiau y Cyfeirir Atyn Nhw yng Ngorchymyn (Cau Mynedfa Breifat i Eiddo, Deuoli’r A4119, Coed-elái) 2020 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dogfennau a gyfeirir atyn nhw yn y datganiad o'r rhesymau (Saesneg yn unig)

Trafnidiaeth

1 - Deuoli'r A4119 Heol Cwm Elái, Coed-elái - Asesiad Trafnidiaeth - Mehefin 19

2 - Deuoli'r A4119 Heol Cwm Elái, Coed-elái, Adendwm Asesiad Trafnidiaeth - Tachwedd 19

3 - Asesiad Coridor yr A4119, rhagolwg traffig ac asesiad capasiti - Mai 18

4 - Nodyn Technegol Covid-19 gan Redstart - Gorffennaf 20

WelTAG

5 - Coed-elái: Adroddiad Achos Strategol Amlinellol (Weltag Cam 1) - Ionawr 18

6 - Coed-elái: Adroddiad Achos Strategol Amlinellol (Weltag Cam 1) - Adroddiad Asesiad Effaith - Ionawr 18

7 - Coed-elái: Adroddiad Achos Busnes Amlinellol (Weltag Cam 2) - Adroddiad Asesiad Effaith - Hydref 18

8 - Coed-elái: Adroddiad Achos Busnes Amlinellol (Weltag Cam 2) - Hydref 18

Penderfyniadau'r Cyngor a Dogfennau

9 - Adroddiad Cabinet 18/07/19

10 - Adroddiad o'r Penderfyniad 18/07/19

11 - Adroddiad Cabinet 21/06/18

12 - Adroddiad o'r Penderfyniad 21/06/18

13 - 13. Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig RhCT hyd at 2021 – tud. 39, 110, 113, 142 a 220

Cynllunio ac Ecoleg

14 - Llythyr Datblygiad a Ganiateir gan Adran Gynllunio RhCT - 14 Medi 2018

15 - Llythyr gan Adran Gynllunio RhCT yn cadarnhau nad oes angen AEA - 20 Gorffennaf 2020

16 - Adroddiad Arolwg Ystlumod Deuoli'r A4119 Coed-elái - Mai 20

17 - Arolwg Cynllunio Pathewod Deuoli'r A4119 Coed-elái - Gorffennaf 19

18 - Asesiad Ecoleg Rhagarweiniol Deuoli'r A4119 - Medi 16

19 - Adroddiad Sgrinio Effaith ar yr Amgylchedd - Chwefror 18

20 - Cynllun Gwella'r A4119 Heol Cwm Elái, Coed-elái - Adroddiad ar yr Asesiad Sŵn - Chwefror 19

Ymgynghoriad â'r Cyhoedd a Pherchnogion Tir

21 - Byrddau Ymgynghori Cyhoeddus - Chwefror 19

22 - Llythyr Cyflwyno'r Prosiect - Awst 17

23 - Llythyr Diweddaru'r Dyluniad - 01/07/20

24 - Gorolwg trefniant cyffredinol – dylunio cychwynnol – P048-SH-80-01-P01 – Mai 2020

25 - Manylion trefniant cyffredinol – dylunio cychwynnol – P048-SH-80-(02-04)-P01 – Mai 2020

26 - Manylion trefniant cyffredinol – dylunio cychwynnol – P048-SH-80-(03)-P01 – Mai 2020

27 - Manylion trefniant cyffredinol – dylunio cychwynnol – P048-SH-80-(04)-P01 – Mai 2020

Gorchymyn Prynu Gorfodol

28 – Datganiad o'r Rheswm - Tachwedd 2020