Skip to main content
`

Cwestiynau Cyffredin Casgliadau Tair Wythnos

Mae'n debyg y bydd gyda chi gwestiynau am y newidiadau, ac rydyn ni wedi ceisio ateb rhywfaint ohonyn nhw isod.

C. Ym mha ffordd bydd y rheolau'n newid?

Dyma'r rheolau newydd:-
Mae modd i gartrefi â bin olwynion 240l (mawr) roi'r bin allan (caead ar gau) i'w gasglu. Fydd bagiau du ychwanegol ddim yn cael eu casglu.
 
Mae modd i gartrefi â bin olwynion 120l (bach) roi'r bin allan i'w gasglu, ynghyd ag un bag du safonol (dim mwy na 70l) ar ben y bin neu yn ei ymyl.
 
Bydd modd i gartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu unwaith bob tair wythnos.
 
Byddwn ni’n dal ati i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff gwyrdd bob wythnos. (Bydd gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu'n wythnosol rhwng mis Ebrill a mis Hydref.

C. Pam gwneud y newidiadau yma?

Mae angen i ni gynyddu ein cyfraddau ailgylchu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25. Cyfradd ailgylchu cyfredol RhCT yw 67.48%.
 
Os byddwn ni'n methu â chyrraedd y targed yma, mae'n bosibl y byddwn ni'n cael dirwy o £140,000 am bob 1% o'r targed y byddwn ni'n methu yn flynyddol. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gael effaith fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.

C. Pryd byddai'r rheolau newydd yn dod i rym?

Bydd casgliadau bob tair wythnos yn dechrau ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd pob cartref yn derbyn llythyr unigol sy'n cadarnhau eu dyddiad dechrau ac unrhyw newidiadau o ran y diwrnod casglu. Bydd pob preswylydd yn cael tua 4 wythnos o rybudd cyn i'r newidiadau ddod i rym (lle bydd modd).

C. Sut byddaf yn storio fy magiau du llawn am hyd at dair wythnos?

Ar gyfartaledd, mae bron i hanner y cynnwys a roddir mewn bagiau du yn ailgylchadwy. Os ydych yn ailgylchu popeth y gallwch drwy ddefnyddio ein casgliadau ailgylchu bob wythnos, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu yn eich bagiau du. Mae hyn yn golygu y dylech gael llai o fagiau du wedi'u llenwi i'w storio tan eich casgliad nesaf.

Efallai y byddwch hefyd yn dewis storio eich bagiau du llawn mewn bin neu fin olwynion, ac yna symud y bagiau i'ch man casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu.

C. Beth os oes gyda fi fin olwynion ond yn byw yng Nghwm Rhondda, neu'n byw yng Nghwm Taf neu Gwm Cynon a bagiau sy'n cael eu casglu? A fydd fy null casglu yn newid?

Fydd dim newid o gwbl i'r dulliau casglu. Dydyn ni ddim yn casglu o finiau olwynion yng Nghwm Rhondda. Os ydych chi'n byw yng Nghwm Cynon neu Gwm Taf, mae modd i chi naill ai roi eich bin olwynion neu dri bag du allan i'w casglu bob tair wythnos.

C. Beth sy'n digwydd os bydd pobl yn rhoi pethau yn fy min ar ôl i mi ei roi allan i'w gasglu, neu os bydd pobl yn rhoi eu gwastraff y tu allan i'm tŷ fel ei fod yn edrych fel petai’n rhan o'm gwastraff i? A fyddaf yn cael fy nghosbi?

Cysylltwch â'r Cyngor os ydych chi'n gwybod bod hyn yn digwydd. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni fel bod modd i ni ymchwilio. Chewch chi ddim eich eich cosbi os dydych chi ddim ar fai.

C. Pa bethau mae modd eu hailgylchu? Dydy'r rhestr ar y wefan yn ddigon cynhwysfawr.

Edrychwch ar y canllaw chwilio A i Y. 

Os oes gyda chi eitem sydd ddim yn ymddangos ar ein rhestr A i Y, anfonwch e-bost aton ni ar ailgylchu@rctcbc.gov.uk. Bydd modd i ni roi cyngor pellach i chi ac ychwanegu'r wybodaeth at y rhestr  A i Y i helpu eraill!

C. Mae gyda ni fin olwynion safonol - a oes modd i ni ofyn am y bin mwy?

Does dim rhagor o finiau mawr gyda ni ar gyfer gwastraff y cartref, felly bydd y biniau mawr yn dod i ben yn raddol. Byddai'n rhy gostus cael gwared ar bob bin sydd allan yno ar hyn o bryd.

C. Rhai wythnosau mae gen i fwy na thri bag du – a oes rhywle y gallaf i fynd â nhw?

Mae'n werth gwirio bod dim byd arall y mae modd ei ailgylchu yn eich bagiau du. Defnyddiwch ein adnodd chwilio A i Y, os dydych chi ddim yn siŵr ym mha fag y dylid rhoi eitem.

Does dim terfyn ar faint o fagiau ailgylchu y mae modd i chi eu rhoi allan bob wythnos!
 
Ar gyfer gwastraff does dim modd ei ailgylchu, mae croeso i chi fynd ag ef i Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned i'w waredu.
 
Byddwch yn effro i'r ffaith y bydd staff ar y safle yn gwirio eich bagiau ac yn gwrthod eu derbyn os oes eitemau ynddyn nhw y mae modd eu hailgylchu, gan gynnwys bwyd a chewynnau.
 
Os ydy'ch amgylchiadau personol yn golygu bod gormod o fagiau du gyda chi'n rheolaidd, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. A oes modd i'r Cyngor gynnig cymhelliant i wobrwyo cartrefi am ailgylchu?

Y wobr am ailgylchu yw diogelu'n hamgylchedd a’n planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac osgoi dirwyon am beidio â bwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru.

C. A fydd Treth y Cyngor yn gostwng os ydyn ni'n gwneud yr ymdrech i ailgylchu mwy?

Na fydd. Mae'r Cyngor yn dal ati gyda'i wasanaeth casglu ailgylchu wythnosol fel bod modd i drigolion gael gwared ar eu gwastraff. Ar ben hynny, mae gwasanaethau ychwanegol ar gael sy'n cynnwys ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff gwyrdd a gwastraff bwyd ynghyd â Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.
 
Bydd yr arbedion sy'n cael eu gwneud yn helpu i ddiogelu gwasanaethau'r Cyngor ar adeg pan fo chwyddiant o 10% yn golygu bod costau rhedeg gwasanaethau'n cynyddu.

C. Rwy'n gynhaliwr ac mae angen i mi gael gwared ar fenig, ffedogau ac eitemau dillad meddygol eraill - i ble mae'r rhain yn mynd?

Mae modd cael gwared ar y rhain yn eich bag du neu fin olwynion.

C. A oes unrhyw amgylchiadau lliniarol – er enghraifft ar gyfer rhywun ag anabledd neu gartrefi sydd angen cael gwared ar ludw/gwastraff anifeiliaid anwes?

Mae hyblygrwydd i drigolion sydd ag amgylchiadau penodol neu anawsterau sy'n golygu bod cydymffurfio â'r newidiadau yn anodd. 

C. Os yw'r pecyn yn nodi nad oes modd ei ailgylchu - a ddylwn i ei roi yn fy mag/bin gwastraff du?

Dylech, ond daliwch ati i wirio'r pecynnau gan fod technolegau ailgylchu newydd ar waith bob dydd, sy'n golygu bod modd ailgylchu mwy a mwy o eitemau.

C. A fydd mwy o leoedd yn y sir i fynd i nôl rhagor o fagiau ailgylchu?

Mae croeso i chi alw heibio i un o’r mannau casglu bagiau ailgylchu gwastraff a bwyd. Mae sawl un ar gael ledled y fwrdeistref sirol. Rydyn ni bob amser yn edrych am lefydd newydd i fod yn ganolfannau dosbarthu ac yn diweddaru'r rhestr yn rheolaidd.

C. Sut mae'r Cyngor yn mynd i wirio bod y bagiau gwastraff ddim yn cynnwys eitemau y mae modd eu hailgylchu? A fydd y Cyngor yn archwilio bagiau?

Rydyn ni'n canolbwyntio ar drigolion sydd ddim yn ailgylchu ac sy'n rhoi eitemau y mae modd eu hailgylchu yn eu biniau/bagiau du o hyd.
 
Dydyn ni ddim yn bwriadu archwilio biniau pawb am eitemau y mae modd eu hailgylchu. Mae modd i ni weld pwy sy'n gwneud eu gorau glas i ailgylchu, yn seiliedig ar yr hyn maen nhw'n ei roi allan i'w gasglu. Os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y gallwch, does dim byd gyda chi i boeni amdano.

C. Sut wnaethoch chi ddewis y system newydd yma?

Mae'r system yma'n effeithio'n bennaf ar gartrefi sydd ddim yn ailgylchu. Ychydig iawn o effaith y bydd yn ei chael ar drigolion sydd eisoes yn ailgylchu. Mae'r system yma wedi bod yn llwyddiannus mewn llawer o ardaloedd sydd dan ofal cynghorau eraill.

C. Beth fydd yn digwydd os caiff fy min ei ddwyn?

Mae modd archebu bin newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.

C. Sut ydw i'n dechrau ailgylchu bwyd?

Does dim rhaid talu i ymuno â'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd ac rydyn ni'n gwneud casgliadau wythnosol. Cofrestrwch ar-lein: www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.

C. Sut mae dechrau ailgylchu cewynnau?

Does dim rhaid talu i ymuno â'r cynllun ailgylchu cewynnau ac rydyn ni'n gwneud casgliadau wythnosol. Cofrestrwch ar-lein: www.rctcbc.go.uk/cewynnau

C. Os ydw i'n methu casgliad, oes hawl gyda fi i ddyblu'r gwastraff rydw i'n ei roi allan y tro nesaf?

Nac oes. Serch hynny, os oes gyda chi amgylchiadau arbennig, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Rwy'n rhedeg busnes lleol o gartref a fydda i ddim yn dygymod â’r gweithdrefnau newydd yma. Beth alla i ei wneud?

Rhaid i fusnesau ddefnyddio gwasanaethau Gwastraff Masnach/Ailgylchu naill ai gyda'r Cyngor neu ddarparwr gwasanaeth masnachol. Mae'n bosibl y gallai defnyddio'r gwasanaeth casglu domestig ar gyfer gwastraff masnach arwain at ddirwy i chi. 

C. A fyddaf yn parhau i gael cymorth oherwydd fy anabledd/anallu i gyrraedd fy man casglu bin arferol?

Byddwch. Bydd hyblygrwydd i'r trigolion hynny sydd ag amgylchiadau penodol neu anawsterau sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw i gydymffurfio â'r newidiadau. 

C. Pa faint y dylai’r bagiau du rydych chi’n eu casglu fod?

Bydd 3 bag du safonol (70l) yn cael eu casglu. Fydd unrhyw fagiau du sy'n rhy fawr ddim yn cael eu casglu, na bagiau du maint bin olwynion/maint diwydiannol.

C. Oes rhaid i'r bagiau fod yn ddu?

Oes. Dydy'r carfanau gwastraff ddim eisiau casglu bag sydd wedi'i fwriadu ar gyfer elusen trwy gamgymeriad. Mae defnyddio bagiau du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael gwared ar unrhyw ddryswch.

C. Beth fydd yn digwydd os na fyddwn ni'n cyrraedd y targedau?

Bydd y Cyngor yn wynebu dirwyon blynyddol sylweddol o £140,000 am bob 1% y mae’n cwympo o dan y targed ailgylchu o 70% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gael effaith fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon. 

C. O dan ba ddeddf mae modd i chi fy ngorfodi i ailgylchu?

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

C. Sut ydych chi'n mynd i reoli mannau casglu biniau cymunedol?

Byddwn ni'n gweithio gyda thrigolion a landlordiaid cymdeithasol a phreifat, i sicrhau bod pawb yn effro i'r rheolau ac yn ailgylchu cymaint ag y gallan nhw.
 
Os daw hi'n amlwg bod y system yn cael ei chamddefnyddio, byddwn ni'n ymchwilio ac yn cymryd camau gorfodi lle bo angen.

C. A fyddwch chi'n disgwyl i drigolion ag anableddau megis nam ar eu golwg a dementia gydymffurfio â’r cyfyngiadau yma?

Rydyn ni'n effro i'r ffaith y bydd rhai trigolion angen cymorth ychwanegol oherwydd eu hamgylchiadau personol. 

C. Mae gen i fin 120L, mae gan fy nghymydog fin 240L, pam ydw i'n cael fy nghosbi am gael bin cyffredin?

Ar gyfartaledd mae modd ailgylchu dros 80% o wastraff cartref a dydyn ni ddim yn bwriadu cosbi unrhyw un sydd eisoes yn ailgylchu cymaint â phosibl.
 
Mae bin 120l ac 1 bag du ychwanegol yn cael eu hystyried yn ddigon ar gyfer gwastraff sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu ac mae pob bin newydd byddwn ni'n ei roi yn 120l.
Rydyn ni'n effro i'r ffaith fod rhai cartrefi â biniau 240l, a bydd y rhain yn cael eu disodli gan finiau llai pan fydd cais yn dod i law am fin newydd. Fydd cartrefi â biniau 240l ddim yn cael rhoi bag du ychwanegol allan. 

C. Rydw i'n byw yng Nghwm Rhondda; oherwydd y newidiadau a oes modd imi gael biniau olwynion fel ardaloedd Cwm Cynon a Chwm Taf?

Nac oes. Fyddai hynny ddim yn ymarferol i gasgliadau'r Cyngor oherwydd tirwedd rhannau helaeth o'r Rhondda. 

C. A minnau'n un o drigolion Cwm Rhondda, rwy'n talu Treth y Cyngor yn union fel pob ardal arall. A yw'r Cyngor yn mynd i roi bagiau sbwriel i mi yn yr un ffordd â maen nhw'n rhoi biniau i drigolion mewn ardaloedd eraill?

Nac ydy. Serch hynny, bydd y Cyngor yn dal ati i ddarparu bagiau ailgylchu, bagiau cewynnau a bagiau ar gyfer gwastraff bwyd, cadis a biniau am ddim, yn ogystal â chynnal gwasanaeth casglu wythnosol am ddim. Dim pob Cyngor sy'n cynnig y fath gwasanaeth.

C. Mae gen i dân glo/coed ac felly mae gen i ludw mae angen cael gwared arno. A oes hawl gyda fi i roi gwastraff ychwanegol allan?

Rydyn ni'n gwybod y bydd cartrefi ag amrywiaeth o amgylchiadau sy'n golygu y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd cadw at y cyfyngiadau gwastraff. Byddwn ni'n ymdrechu i fod mor hyblyg a rhesymol â phosibl. 

C. Mae gen i sawl cath a does dim modd i fi ailgylchu torllwyth cathod, a oes gen i hawl i osod sachau ychwanegol fel y rheiny sy'n rhoi sachau ychwanegol o ludw allan?

Yn anffodus, does dim modd ailgylchu torllwyth cathod. Mae hwn yn fater sydd allan o'n rheolaeth ni.
 
Bydd angen rhoi unrhyw wastraff sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid e.e. cŵn a chathod, mewn bag du a'i roi allan i'w gasglu. Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du o wastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf. 
 
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd i gadw at y cyfyngiadau oherwydd amgylchiadau personol, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein

C. Sut ydw i'n cael gwared ar wastraff meddygol?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gan rai trigolion anghenion penodol.
Caiff gwastraff clinigol ei gasglu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. 
Mae Gwastraff Clinigol yn cynnwys:
Offer miniog meddygol (nodwyddau, chwistrellau neu offer miniog eraill) sy'n cael eu cadw mewn biniau melyn;
Gwastraff clinigol peryglus (rhwymau neu glytiau wedi'u heintio â gwaed neu wastraff dialysis) sydd wedi'i storio mewn bagiau gwastraff clinigol oren.
Dydy padiau anymataliaeth a gwastraff stoma, cathetr/colostomi ddim yn gymwys ar gyfer casgliad Gwastraff Clinigol. Rhaid rhoi'r gwastraff yma mewn bagiau bin du cartref.
Os oes angen casgliad gwastraff clinigol arnoch chi, ffoniwch y Gwasanaeth Negesydd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 0300 123 9208.

C. Mae gen i fag STOMA ac mae hyn yn achosi i mi orlenwi fy magiau, beth alla i ei wneud?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gan rai trigolion anghenion penodol.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd i gadw at y cyfyngiadau oherwydd amgylchiadau personol,

C. Beth fydd yn digwydd os na chaiff fy magiau eu casglu ar y diwrnod sy wedi'i drefnu?

Os gwnaethoch chi osod eich bagiau allan cyn 7am ar y diwrnod casglu, gadewch nhw lle maen nhw, a byddwn ni'n eu casglu nhw cyn gynted â phosibl. Rhowch wybod am gasgliad sy wedi'i fethu trwy fynd i: www.rctcbc.gov.uk/gwastraffhebeigasglu.
 
Lle rydw i'n byw, mae gyda ni gompwnd/man casglu, sut bydd y newidiadau'n effeithio arna i?
Bydd raid i chi ddilyn yr un rheolau a derbyn yr un newidiadau â phawb arall. 

C. Pa eitemau nad oes modd eu hailgylchu ydw i i fod i'w rhoi yn fy mag/bin du?

Rydyn ni'n amcangyfrif bod modd ailgylchu hyd at 80% o wastraff y cartref - gan gynnwys cewynnau, bwyd a gwastraff gwyrdd.
 
Ewch i'n adnodd chwilio A i Y am ragor o wybodaeth.

C. Pa bethau a oes modd imi eu hailgylchu a pha bethau nad oes modd imi eu hailgylchu?

Mae gan ein hadnodd chwilio A i Y lawer o wybodaeth - rhowch wybod i ni os oes eitem ar goll o'r rhestr fel bod modd i ni ei hychwanegu i helpu eraill.

C. A fydd hawl gyda ni i roi bagiau gwastraff ychwanegol allan adeg y Nadolig?

Gweler y wefan/sianeli cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth dymhorol.

C. Sut oes modd imi reoli fy ngwastraff yn effeithiol?

Ailgylchwch bopeth y gallwch chi a manteisiawch ar yr ystod lawn o wasanaethau'r Cyngor – ailgylchu wythnosol, cynllun gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd wythnosol, gwastraff cewyn/anymataliaeth wythnosol (trwy gofrestru). Defnyddiwch ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar gyfer eitemau eraill y mae modd eu hailgylchu.

C. A oes hawl gen i i gael bin 240L fel cartrefi eraill ar fy stryd?

Nac oes. Er ein bod ni'n cydnabod bod maint biniau rhai trigolion yn amrywio, dydy hi ddim yn gwneud synnwyr ariannol i newid pob bin ar yr un pryd fel bod yr holl finiau yr un maint. Dydy'r Cyngor ddim yn dosbarthu biniau 240l bellach, a byddan nhw'n dirwyn i ben yn naturiol ac yn raddol.

C. Pam ddylwn i dalu am fin newydd pan rydych chi wedi cwtogi ar y gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu i fi?

Dydyn ni ddim wedi cwtogi ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu o gwbl gan ein bod ni'n dal ati i ddarparu gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol AM DDIM a DIDERFYN ar gyfer y rhan fwyaf o'ch gwastraff cartref.

C. Rwy'n byw yng Nghwm Rhondda a hoffwn i brynu bin olwynion ar gyfer gwastraff fy mag du. Ga i wneud hyn?

Na chewch. 

C. Oes hawl gen i i drwsio fy min olwynion fy hun os yw'n cael ei dorri?

Oes, ar yr amod bod y gwaith atgyweirio yn addas a bod y bin yn addas at y diben.

C. Beth mae RhCT yn ei wneud i ddirwyo/gweithio gyda'r sefydliadau hynny sy'n cynhyrchu cynwysyddion nad oes modd eu hailgylchu?

Mae’r cyhoedd yn mynegi dymuniad cynyddol i leihau faint o blastig a phecynnu nad oes modd eu hailgylchu yn y diwydiant bwyd.

Mater i Lywodraeth y DU a’r diwydiant yw hwn, nid y Cyngor. Serch hynny, byddwn ni'n dal ati i weithio gydag asiantaethau partner i wneud gwahaniaeth lle mae hynny'n bosibl.

C. Beth ydyn ni'n ei wneud am torllwyth cathod? A oes modd ei ailgylchu?

Yn anffodus, does dim modd ailgylchu torllwyth cathod, hyd yn oed os yw'r cynnyrch wedi'i labelu'n organig.
 
Bydd angen rhoi gwastraff sy'n ymwneud ag anifeiliaid e.e. cŵn a chathod mewn bag du a'i roi allan i'w gasglu. Mae hefyd modd mynd â bagiau du o wastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf. 
 
Os ydych ei chael hi'n anodd i gadw at y cyfyngiadau oherwydd amgylchiadau personol, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Mae gen i lawer o anifeiliaid – beth ddylwn i ei wneud gyda'u gwastraff?

Mae angen clymu gwastraff anifeiliaid mewn bag du a'i roi allan i'w gasglu.

Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du o wastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf

Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio ar gyfer gwneud gwely i anifeiliaid cwt bach e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach amlddefnydd WERDD a byddwn ni'n ei chasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu gwastraff gardd/sach werdd wythnosol. 

Os ydych yn cael hi'n anodd i gadw at y cyfyngiadau oherwydd amgylchiadau personol, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Mae'r bagiau'n dweud bod modd rhoi polystyren ynddyn nhw.  A oes modd cadarnhau eich bod chi'n cymryd polystyren?

Rydyn ni'n derbyn polystyren yn rhan o wasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd (fel arall mae modd mynd â darnau mwy o faint e.e. pecynnu ar gyfer teledu, ac ati i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf).

C. A fydd cynnydd mewn tipio anghyfreithlon?

Ddylai newid amlder casglu a/neu gyfyngu ar faint o fagiau du rydyn ni'n eu casglu ddim effeithio ar lefelau tipio anghyfreithlon - does dim esgus dros droseddau o'r fath.
 
Mae llawer o'r tipio anghyfreithlon rydyn ni'n ei glirio yn cynnwys dodrefn, offer cartref a gwastraff adeiladu. Fyddai'r gwastraff yma ddim yn cael ei gasglu o ymyl y ffordd.
 
Os oes modd i chi yrru i fynydd neu lôn i gael gwared ar pethau yma, mae modd i chi yrru i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned i'w gwaredu. Does DIM RHAID I CHI DALU i ddefnyddio'r canolfannau yma a byddai eu defnyddio nhw yn hytrach na llygru mynyddoedd neu lonydd yn osgoi dirwy fawr pan fyddwch chi'n cael eich dal.
 
Rydyn ni hefyd wedi nodi’n glir y byddwn ni mor gymwynasgar â phosibl. Os oes gyda chi amgylchiadau personol rhesymol sy'n ei gwneud hi'n anodd i gydymffurfio â'r cyfyngiadau, cysylltwch â ni.
 
Byddai eitemau o'r fath yn cael eu gwaredu drwy'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu drwy gasgliad gwastraff swmpus sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw.
 
Mae’r cyfyngiad rydyn ni wedi’i osod ar gasgliadau sbwriel yn seiliedig ar y ffaith bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref - gan gynnwys cewynnau, gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd.
 
Os ydych yn ailgylchu cymaint â phosibl, dylai'r cyfyngiadau fod yn ddigon.
 
Rydyn ni'n effro i amgylchiadau personol posibl a allai effeithio ar allu cartref i gadw at y cyfyngiadau ac mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Sut mae modd ailgylchu gwastraff anifeiliaid bach e.e. blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio at ddiben gwneud gwely i'r anifail?

Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio mewn cwt anifeiliaid bach e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach WERDD amldro a byddwn ni'n ei gasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu wythnosol gwastraff gardd/sach wyrdd.

Cofrestrwch i ymuno â’r Cynllun Casglu Gwastraff Gwyrdd yma.

C. A fydd mwy o ddrewdod a mwy o fermin?

Mae llygod mawr a fermin yn cael eu denu at wastraff bwyd mewn sachau du, felly os ydych chi'n yn defnyddio’r ystod lawn o wasanaethau ailgylchu wythnosol, yn enwedig gwastraff bwyd, ni ddylai fod llawer iawn yn eich bagiau/biniau du o gwbl. Ddylai fod dim drewdod felly, a dim rheswm i ddenu plâu ychwanegol. Pe hoffech chi gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd gwnewch hynny ar-lein yma.
Rydyn yma i helpu a rhoi cyngor i drigolion ar sut i ailgylchu. Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n cael trafferth gyda’r newidiadau mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Beth am deuluoedd mwy sydd eisoes yn ailgylchu cymaint â phosibl ond a fydd yn dal i gael trafferth gyda'r newidiadau?

Rydyn ni'n amcangyfrif bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref. Byddwn ni’n dal ati i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff gwyrdd bob wythnos.
Gall cartrefi â bin olwynion 120l (bach) roi'r bin allan i'w gasglu, ynghyd ag un bag du safonol ychwanegol (70l ar y mwyaf) ar ben y bin neu wrth ei ymyl. 
Gall cartrefi â bin olwynion 240l (mawr) roi'r bin allan (caead ar gau) i'w gasglu. Fydd bagiau du ychwanegol ddim yn cael eu casglu. 
Bydd modd i gartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu bob tair wythnos. 
Rydyn ni o'r farn os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y bo modd, yna dylai'r nifer yma o fagiau/biniau du fod yn ddigon ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Serch hynny, os ydych chi'n teimlo y byddech yn ei chael hi'n anodd, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. Sut mae hwn yn cynnig gwerth am arian o ran fy Nhreth Gyngor?

Mae'r Cyngor yn dal ati i ddarparu gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol i alluogi trigolion i gael gwared ar eu gwastraff, gyda gwasanaethau ychwanegol gan gynnwys casglu cewynnau, gwastraff gwyrdd, gwastraff bwyd a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. 

C. Mae'r Cyngor wedi cytuno i fi gael lwfans bagiau du ychwanegol. A fydd hwn yn parhau?

Os oes gyda chi gytundeb yn barod, bydd hwn yn aros yr un fath.

C. Pam ydyn ni'n defnyddio bagiau clir untro?

Yn rhan o'r newidiadau byddwn ni'n treialu bagiau ailgylchu amldro ar gyfer casglu deunydd ailgylchu cymysg sych. Os bydd y cynllun yn llwyddiannus y gobaith yw y bydd hyn yn arbed miliynau o fagiau ailgylchu clir. Serch hynny, mae modd anfon y bagiau ailgylchu, sydd wedi'u gwneud o blastig sydd wedi'i ailgylchu, i'w hailgylchu ar ôl eu defnyddio.
 
Bydd treialu'r bagiau amldro yn digwydd mewn ardaloedd penodol sy wedi'u nodi.

C. Beth am fagiau amldro ar gyfer ailgylchu?

Yn rhan o'r newidiadau byddwn ni'n treialu bagiau ailgylchu amldro ar gyfer casglu deunydd ailgylchu cymysg sych. Bydd hyn yn gynllun peilot mewn ardaloedd penodol.

C. Sut galla i wneud cais am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol?

Rydyn ni'n effro bod amgylchiadau personol a all effeithio ar allu cartref i gadw at y cyfyngiadau ac mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

C. A fydd fy niwrnod casglu'n newid?

Bydd nifer o newidiadau i ddiwrnodau casglu bagiau du/biniau ar olwynion ar draws Rhondda Cynon Taf ac mae'n debygol y bydd eich diwrnod casglu chi'n newid. Mae hyn er mwyn sicrhau bod llwybrau casglu yn cael eu cynllunio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon i leihau ein hôl troed carbon, wrth barhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu wythnosol LLAWN. Byddwn ni'n anfon gwybodaeth am y newidiadau atoch chi'n uniongyrchol ymlaen llaw.

Nodwch: Bydd diwrnodau casglu cewynnau yn parhau'r un fath gan nad yw'r newidiadau'n effeithio ar y casgliadau yma.