Skip to main content

Deisebau

Mae'r deisebau canlynol wedi'u cyflwyno. Mae'r deisebau a ddangosir yma wedi bodloni'r meini prawf fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Teitl
(Dyddiad cyflwyno)
Cyflwynwyd gan 
(Nifer y llofnodion)
Trosolwg o'r rheswm dros y ddeisebCamau a Gymerwyd
Gwrthwynebu ailddatblygiad arfaethedig hen safle WR Bishop
(06/07/2022)
Trigolion
(936)

Atal ailddatblygiad hen safle WR Bishop

Ymateb Cabinet - Disgwyl

 

Disgwyl ymateb o ran camau gweithredu

Mesurau gostegu traffig ar Heol Tyle-celyn, Pen-y-graig.
(08/04/2022)
Trigolion ar y cyd â'r Cynghorydd Davies
(299)

Gosod mesurau gostegu traffig ar Heol Tyle-celyn, Pen-y-graig, i gadw trigolion yn ddiogel

Ymateb Cabinet

Yn seiliedig ar adolygiad o hanes gwrthdrawiadau ag anafiadau personol am y rhan fwyaf o gyfnod o dair blynedd, ni fydd y safle'n cael ei restru fel blaenoriaeth ar hyn o bryd oherwydd bod lleoliadau eraill sydd â mwy o angen.

Bydd y pryderon ynghylch goryrru yn cael eu trosglwyddo i'r heddlu er mwyn iddo ystyried cymryd y camau priodol, ond byddai sefydlu Cynllun Gwylio Cyflymder Cymunedol ym Mhenygraig o fudd hefyd.

Mae modd i drigolion lenwi ffurflen pryder cymunedol ar Wefan GanBwyll;  i dynnu sylw at y mater.

Eiddo gwag Porth
(23/03/22)
Trigolion ar y cyd â'r Cynghorydd Williams a'r Cynghorydd Cox
(310)

Mae Eiddo Gwag yn cael eu gadael i ddirywio a throi'n hagr. Mae'r trafodaethau wedi mynd ymlaen yn rhy hir

Ymateb Cabinet

 

Mae'r Cyngor yn parhau i drafod cyfleoedd i fanteisio ar gyllid o'r fath gyda pherchnogion eiddo preifat y dref. Mae Grant Cynnal Canol Trefi wedi cael ei roi ar waith i annog busnesau i sicrhau bod gyda nhw bresenoldeb deniadol a thaclus yn y dref. Mae'r grant yma'n parhau i fod ar gael i berchnogion busnes.

Yn ogystal â'r hyn sydd wedi'i nodi mewn perthynas â'r eiddo uchod, mae modd i mi gadarnhau bod Hysbysiad Adran 215 (Cynnal a Chadw Tir) wedi'i gyflwyno i berchennog hen Neuadd Bingo Top Ten Bingo. Mae'r hysbysiad yma'n gofyn iddo gyflawni sawl gwelliant i'r adeilad.

Rhaid cydymffurfio â'r hysbysiad erbyn 15 Mehefin. Bydd modd bwrw ymlaen â’r broses o geisio erlyniad os nad yw'r gwaith yn cael ei gynnal erbyn y dyddiad cydymffurfio.

Trefniant Trwyddedau Parcio ar Stryd Grawen, Porth 
(23/03/22)

Trigolion ar y cyd â'r Cynghorydd Williams a'r Cynghorydd Cox  

(24)

 

Rydyn ni wedi dod yn fwyfwy effro i nifer y ceir sydd ar y stryd, gan arwain at lawer o drigolion yn derbyn nifer o docynnau parcio.

 

 

 

 

 

Ymateb Cabinet

 

Fel y mae'r enw yn awgrymu, gyda rhai eithriadau, dim ond preswylwyr all barcio

yn y lleoedd hynny. Gall hyn beri anhawster i'r rheiny sy'n dibynnu ar aelodau o'r teulu neu ffrindiau i ymweld â nhw. Er mwyn goresgyn hyn, mae modd cyflwyno lleoedd parcio i breswylwyr yn unig / lleoedd aros cyfyngedig. Serch hynny, fyddai'r opsiwn yma ddim yn mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch unigolion nad ydyn nhw'n breswylwyr yn parcio am gyfnod byr nac mewn achosion lle mae nifer y lleoedd sydd eu hangen ar breswylwyr yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Felly, fyddai cyflwyno lleoedd parcio i breswylwyr yn unig ddim yn mynd i'r afael â'r problemau a godwyd a fydden nhw ddim yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Adolygiad o Symudiadau Traffig a Pharcio yn Nhreorci
(14/03/22)

Preswylwyr ar y cyd â'r Cynghorydd Webster
(248)

Rydyn ni'n galw ar Gyngor RhCT i gynnal adolygiad cynhwysfawr llawn o symudiadau traffig a pharcio yn Nhreorci drwy ymgynghori'n llawn â phreswylwyr.

Ymateb Cabinet

 

Ar ôl cwblhau'r prosiectau rydyn ni wedi ymrwymo iddyn nhw, byddwn ni'n ystyried ardaloedd eraill yn Rhondda Cynon Taf yn unol â'r meini prawf cymhwysedd, a bydd y rhain yn cael eu hasesu yn y flwyddyn ariannol nesaf. Does dim penderfyniad wedi cael ei wneud o ran yr ardaloedd sydd i'w cynnwys ond mae ardal Treorci wedi cael ei nodi'n lleoliad posibl ar gyfer adolygiad o drefniadau parcio yn y gorffennol, a bydd yn parhau i fod ar y rhestr o leoliadau i'w hystyried.

Trac BMX - Parc Coffa Ynysangharad
(09/03/22)

Trigolion ar y cyd â'r Cynghorydd Powell
(521)

Mae angen cyfleuster o'r fath ym Mhontypridd er mwyn rhoi cyfle i bobl o bob oed ryddhau egni a mwynhau wrth gadw'n heini.

Ymateb Cabinet

 

Parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau rhagor o gyllid pan fydd cyfleoedd ar gael, ac yn ystyried y cyfleusterau, y gofynnwyd amdanyn nhw uchod, os bydd trafodaethau yn y dyfodol.

Heolydd a Phalmentydd yn ardal Graigwen  
(09/02/22)

Trigolyn ar y cyd â'r Cynghorydd Fychan AS
(105)

Nifer o faterion sy’n effeithio ar Graigwen. Mae'r rhain yn cynnwys:

  1. Goryrru:
  2. huwchraddio ers i'r stadau gael eu hadeiladu.
  3. Mae parcio
  4. Gwasanaeth bws.

Ymateb Cabinet

 

Mae gwasanaeth newydd sy'n defnyddio cerbydau llai yn cael ei gyflwyno ym Mharc Graig-wen yn y dyfodol agos ac o ganlyniad i hynny bydd modd i drigolion fanteisio ar y gwasanaeth, fydd ar gael i'r cyhoedd, o ben bryn Graig-wen.

Llygredd Aer Ffordd Berw

 

(09/02/22)

 

Trigolyn ar y cyd â'r Cynghorydd Fychan AS
(109)

Angen gwella diogelwch ac ansawdd aer ar Ffordd Berw nawr

Rydym ni, trigolion Berw Road a strydoedd cyfagos, yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael ar frys â nifer o faterion sy’n effeithio ar Ffordd Berw yn hanesyddol ac ers llifogydd 2020. Mae hyn yn cynnwys:

Ymateb Cabinet

 

Parthed: Deiseb: Materion amrywiol ynghylch Ffyrdd a Phalmentydd Graig-wen a Llygredd Aer Heol Berw wedi’i atodi

Teitl: Deiseb i wella diogelwch ar y ffordd ar Heol Abercynon
(08/10/21)

Trigolion ar y cyd â'r Cynghorydd Lewis a’r Cynghorydd George
(79)

Cyflwyno twmpathau atal cyflymder a symud safle bws

Ymateb Cabinet

 

Ymateb i Aelodau'r Cabinet

 

Gael ei ychwanegu at restr y Cyngor o Waith Gwella Seilwaith Trafnidiaeth Gyhoeddus. Cafodd y lleoliad ei ddwyn i sylw’r heddlu er mwyn ystyried y camau priodol.

Croesfan i Gerddwyr ar hyd Bryn y Goron
(30/06/21)

Trigolyn ar y cyd â'r Cynghorydd James
(925)

Sefydlu croesfan i gerddwyr

Ymateb Cabinet

 

Cais i gynnwys croesfan I gerddwyr yn y broses adolygu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf

Newid Llwybr Cyhoeddus i fod yn Hawl Tramwy Cyhoeddus
(19/04/21)

Trigolyn ar y cyd â’r Cynghorydd Caple
(300)

CYDNABOD LLWYBR CYHOEDDUS FEL HAWL TRAMWY CYHOEDDUS SWYDDOGOL 

Disgwyl Ymateb

 

Wedi'i anfon at yr Aelod o'r Cabinet er mwyn derbyn ymateb

Lleihau'r Terfyn Cyflymder ar Ffordd Llantrisant 
(07/10/20)
Y Cynghorydd J Brencher, ar ran y trigolion
(106)
Lleihau'r terfyn cyflymder ar Ffordd Llantrisant rhwng Pontypridd a Phen-y-coedcae - rhwng y ddwy gyffordd â Heol y Maendy a Heol Ddu. 

Ymateb Cabinet

 

Cais i gynnwys y safle yn y broses adolygu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 
Deiseb Gymunedol yn erbyn cynnig T2020/191/1 Coed-elái IF191/JG 
(21/10/20

Y Cyng. D Owen-Jones ar ran y preswylwyr 
(120)

Gwrthwynebiad cymunedol mewn perthynas â chynnig i osod cyfyngiadau a gwahardd aros ar unrhyw adeg ar y ffordd sydd ddim wedi'i henwi rhwng Heol Cwm Elái a theras Tylcha Fach, oherwydd datblygiad ar safle Woodlands, Coed-elái.

Ymateb sydd wedi dod I law

 

I'w gynnwys yn adroddiad y swyddog i'w ystyried gan y Cyfarwyddwr Cyfadran, Materion Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen, a'r Aelod Cabinet  yn rhan o'r gwaith o benderfynu ar sut mae'r cynllun yn cael ei ddwyn ymlaen