Arddangosfa Gelf 'Lucy's Adventure' gan Ysgol Hen Felin a Choleg y Cymoedd, wedi'i ariannu gan GEM Cymru. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 3 Ysgol Hen Felin wedi creu llyfr stori o'r enw 'Lucy's Adventure' yn seiliedig ar gloddio glo yng Nghwm Rhondda. Defnyddion nhw wybodaeth gafodd ei chasglu mewn sesiynau yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Gwnaethon nhw gydweithio â Choleg y Cymoedd i wella agweddau ar y stori'n ddigidol. Mae modd prynu llyfr 'Lucy's Adventure' yn y siop anrhegion yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Ymwelwch â'r arddangosfa yma am ddim rhwng 19 Medi a 20 Tachwedd 2023.