Skip to main content

Rhialtwch Calan Gaeaf

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Llun 30 - Dydd Mawrth 31 Hydref 2023
Cyswllt
rhpreception@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Halloween Spooktacular Body

Byddwch barod am y rhialtwch ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda!

Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd ar 30 a 31 Hydref ac mae'n fwy dychrynllyd nag erioed! Mae'r achlysur poblogaidd i blant wedi cael ei drawsnewid ac mae llawer o bethau i'w gwneud gan gynnwys pwmpenfa!

  • Bydd tocynnau'n £9 i bob plentyn a £3 i bob oedolyn ac yn cynnwys y canlynol:
    Pigwch eich pwmpen eich hun yn y Bwmpenfa
    Ewch am dro drwy'r Bwmpenfa i chwilio am eich pwmpen berffaith cyn mynd â hi adref i'w naddu a rhannu lluniau gyda ni ar Facebook drwy dagio @rhonddaheritagepark (Un bwmpen ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Crefftau Crefftus
    Gwnewch gorynnod sbonciog ac addurniadau Calan Gaeaf ar gyfer eich drws. Lliwiwch a glynnwch ddeunyddiau crefft i wneud crefftau Calan Gaeaf. (Un o bob un ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Helfa Calan Gaeaf
    Mae ein hysbrydion Calan Gaeaf ni wedi dianc ac eich swydd chi fydd chwilio amdanyn nhw. Casglwch y stamp er mwyn derbyn losin (neu lanast) wedi ichi ddod o hyd iddyn nhw i gyd. (Un cerdyn gweithgareddau ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Lluniau arswydus hwyl
    Byddwch yn barod â'ch camerâu i dynnu llun dychrynllyd yn ein detholiad o gyfleoedd lluniau arswydus. Peidiwch ag anghofio tagio @rhonddaheritagepark ar Facebook
  • Adfail y Pwll Glo
    Ydych chi am fentro dan ddaear i adfail y pwll glo? Edrychwch am Sgerbydau Swynol, Corynnod Cyfoglyd a mwy wrth ichi gerdded drwy'r atyniad Calan Gaeaf yma.  Bydd modd i ymwelwyr fynd i lawr yn y lifft i adfail y pwll glo cymaint o weithiau â maen nhw eisiau yn y slot amser sydd wedi'i gadw.

Ffair Hwyl Ffang-tastig
Mae dwy reid ffair i blant wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.

Bydd mynediad i Rialtwch Calan Gaeaf yn £9 i blant sy'n cymryd rhan a £3 i oedolion.  Mae tocynnau ar werth nawr ac ar gael yma.