A wyddoch chi? Agorwyd Parc Gwledig Cwm Dâr ym mis Rhagfyr 1973. Rydyn ni'n 50 mlwydd oed!
Ymunwch â ni ddydd Sul 3 Rhagfyr, rhwng 12pm a 5pm, i ddathlu 50 mlynedd o Barc Gwledig Cwm Dâr gydag achlysur Nadoligaidd!
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
Llawr sglefrio synthetig
Glôb eira enfawr
Reidiau i blant
Paentio wynebau
Ogof Siôn Corn
Ffair Nadolig Urban Markets
Bydd pob gweithgaredd, ac eithrio Ogof Siôn Corn, yn costio 1 tocyn. Pris tocynnau fydd £1 yr un a bydd modd eu prynu ar y stondin docynnau. Bydd Ogof Siôn Corn yn costio 2 docyn ar gyfer pob plentyn, gyda phob un yn derbyn anrheg.
Bydd gan Glwb Rheilffyrdd Model Cwm Cynon arddangosfeydd gwych yn y Ganolfan Ymwelwyr hefyd.