Meddai Lloyd “Gweithiodd fy nheulu ym Mhwll Glo Lewis Merthyr am oesoedd, ac mae'n sicr y bydd yr emosiynau'n llifo wrth i mi berfformio mewn lleoliad mor anhygoel.
"Mae dychwelyd adref, a lansio fy nghân gyntaf fel unawdydd yn y Cymoedd yn arbennig iawn i mi. Rwy'n gyffrous iawn i allu perfformio cymysgedd o ganeuon y mae pobl yn eu hadnabod, yn ogystal â chaneuon newydd o'm halbwm cyntaf."
Bydd dau grŵp lleol o Rondda Cynon Taf yn cefnogi Lloyd Macey yn ei gyngerdd Under the Sky - Alice Mee-Bishop, a raddiodd o'r BRIT School, a'r band cerddoriaeth annibynnol, The Brocklebank. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ohonyn nhw berfformio mewn gŵyl.
PRYNU TOCYNNAU