Skip to main content

Gwasanaethau Cymraeg

Ac yntau’n wasanaeth cyhoeddus, mae gofyn i’r Cyngor gyflawni Safonau Iaith.  

Ceir rhestr o’r Safonau yn Hysbysiad Cydymffurfio’r Cyngor, a luniwyd o dan Adran 44, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dyddiad dyroddi’r Safonau oedd 30ain Medi 2015. Gweler y cyswllt isod.

Pamffled Rhowch Gynnig ar y Gymraeg

Mae Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor wedi cydweithio â Chanol Trefi RhCT i lunio pamffled sy'n annog trigolion i Roi Cynnig ar y Gymraeg gyda busnesau ac mewn siopau lleol. Mae'r pamffled dwyieithog yma'n nodi ffigurau'r Cyfrifiad diweddaraf mewn perthynas â'r Gymraeg yn RhCT ac yn egluro ystyr enwau rhai o'n prif drefi. Yn ogystal â hynny, mae'n nodi pa gymorth sydd ar gael o ran dysgu Cymraeg yn lleol, ac yn cynnwys rhestr o ymadroddion defnyddiol y mae modd i chi roi cynnig arnyn nhw o ddydd i ddydd.

Mae cymryd rhan yn hawdd - dim ond arddangos y poster yn eich ffenestr a dosbarthu'r pamffledi i staff a chwsmeriaid sydd angen i chi ei wneud! Mae modd i chi ymarfer eich Cymraeg wrth gyfarch cwsmeriaid, neu hyd yn oed eu helpu i archebu eu hoff bryd o fwyd neu ddiod yn Gymraeg!

Anfonwch e-bost at Garfan Canol Trefi'r Cyngor pe hoffech chi unrhyw gopïau o'r pamffled neu'r poster: canoltrefi@rctcbc.gov.uk. Bydd aelodau’r garfan yn hapus i drefnu iddyn nhw gael eu dosbarthu.

Strategaeth 5 Mlynedd Hybu’r Iaith

Yn unol â Safon 145, mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio, gyhoeddi a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith er mwyn hybu a hyrwyddo’r iaith gyda’r nod o gynyddu defnydd iaith a nifer siaradwyr Cymraeg yn y Bwrdeistref Sirol. Dyma’r ail strategaeth hybu’r Gymraeg i’r Cyngor gyhoeddi ers i safonau’r Gymraeg ddod i rym.