Skip to main content
Eisteddfod
Mae’r Eisteddfod yn dechrau mewn ...

Croeso i'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn dod i Rondda Cynon Taf ym mis Awst 2024, wedi'i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Bydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 yn cael ei chynnal ym Mhontypridd, gyda'r Maes wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Edrychwn ni ymlaen at eich croesawu chi yma yn yr haf - mae gyda ni gymaint i'w weld a'i fwynhau. Rhagor:

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig, cymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda'r nos, gigiau, dramâu, arddangosfeydd a llawer yn rhagor. Mae’n achlysur hwyl i'r teulu sy'n annog pawb (siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg) i ddod i brofi'r cyfuniad unigryw o gystadlu a gŵyl. Mae'r Eisteddfod yn ŵyl gynhwysol sy'n croesawu pawb, does dim ots beth yw eich sgiliau Cymraeg chi, mae rhywbeth at ddant pawb ar y Maes!

Gallwch chi ddysgu rhagor am yr Eisteddfod a beth i'w ddisgwyl ar y Maes drwy glicio ar y ddolen isod

Dysgu Cymraeg

Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, ddim wedi’i defnyddio ers sbel neu wedi meddwl dechrau dysgu o'r blaen, does dim lle gwell i ymarfer na'r Eisteddfod! Sicrhewch eich bod chi'n ymweld â Maes D (pentref dysgwyr Cymraeg yr Eisteddfod) yn ystod eich amser ar y Maes er mwyn dod o hyd i gwrs sy'n gweithio ichi.

Mae ystod eang o gyrsiau dysgu Cymraeg ar gael yn lleol gyda Dysgu Cymraeg, ac mae modd ichi ddod o hyd i restr o foreau coffi Cymraeg ar dudalen gweithgareddau Menter Iaith Rhondda Cynon Taf lle mae modd ichi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol.

COFIWCH: Defnyddiwch y Gymraeg sydd gyda chi, nid y Gymraeg rydych chi'n meddwl y dylech chi ei siarad.

Yr hyn rydych chi efallai wedi'i fethu yn Llŷn ac Eifionydd 2023