Skip to main content

Y Cabinet

Mae’r Cabinet yn gyfrifol am baratoi polisïau yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n gyfrifol am wneud nifer o’r penderfyniadau mawr hynny ar sut mae’r Cyngor yn gwasanaethu’i drigolion. 

Mae gan Rondda Cynon Taf gabinet – yn debyg i Lywodraeth San Steffan yn Llundain, a Llywodraeth Cymru yn y Senedd, Bae Caerdydd. Mae’r Cabinet yn cynnwys 9 o Aelodau Gweithredol sydd â chyfrifoldeb arbennig dros wasanaethau’r Cyngor yn lleol.

Pwrpas y dudalen yma yw esbonio gwaith y cabinet ac Aelodau Gweithredol yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys rhai cwestiynau cyffredin.

Bydd y termau canlynol yn cael eu defnyddio ar y dudalen yma:

  • 'Aelod’ – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Yr Adain 'Weithredol' / y ‘Cabinet’ – sy'n cynnwys Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelodau Gweithredol
  • ‘Aelod Gweithredol’ – Cynghorydd sy’n Aelod o’r Cabinet ac sydd â chyfrifoldebau arbennig

Beth yw'r Cabinet yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf?

Mae’r Cabinet yn cynnwys Arweinydd, Dirprwy Arweinydd a 7 Aelod Gweithredol arall sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ac arwyddocaol.  Eu gwaith yw:

  • Rhoi arweiniad
  • Cynnig y gyllideb a fframwaith ar gyfer polisïau
  • Gweithredu polisïau drwy’r Prif Swyddogion 

Beth yw Aelod Gweithredol?

Aelod Gweithredol yw Cynghorydd sydd â chyfrifoldeb arbennig dros un o feysydd gwaith y Cyngor megis addysg, trafnidiaeth neu wasanaethau cymdeithasol.  Yr enw ar eu maes gwaith yw portffolio.

Pwy sy’n dewis yr Arweinydd a’r Cabinet? 

Caiff yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ei ethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor. Yna, yn unol â’i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau, yr Arweinydd sy’n penodi Aelodau Gweithredol i fod yn aelodau o’r Cabinet.  Mae manylion yr Aelodau Gweithredol i gyd wedi'u cynnwys yn y cynllun dirprwyo’r arweinydd.

Pam mae angen Cabinet?

Mabwysiadodd Rhondda Cynon Taf y system Arweinydd a Chabinet yn 2002. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, roedd gofyn i Gynghorau newid y ffordd roedden nhw’n gwneud penderfyniadau a mabwysiadu system newydd.  Mae llawer o gynghorau Cymru a Lloegr wedi mabwysiadu’r system Arweinydd a Chabinet o wneud penderfyniadau.

Pa rwystrau a gwrthbwysau sydd yn eu lle? 

Mae Pwyllgorau Craffu’r Cyngor yn craffu ar waith a phenderfyniadau’r Cabinet a’r Aelodau Gweithredol.  Mae gan Gynghorwyr yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i ofyn am gael ‘galw i mewn’ penderfyniad y Cabinet er mwyn i Bwyllgor Craffu gael ei ystyried.

Beth yw rôl y Cyngor llawn pan fydd Arweinydd a Chabinet i’w cael? 

Mae’r Cabinet yn rhan bwysig o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.  Serch hynny, mae gan y Cyngor llawn (cyfarfod ar gyfer yr holl Gynghorwyr) hefyd ran bwysig i’w chwarae.  Dyma rai o swyddogaethau'r Cyngor llawn:

  • Cymeradwyo neu wrthod y gyllideb a’r fframwaith ar gyfer polisïau
  • Ethol Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor
  • Mabwysiadu Cyfansoddiad
  • Penodi pwyllgorau i fod yn gyfrifol am y trefnau trosolwg a’r craffu o swyddogaethau a materion rheoliadol

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn pennu swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Cyngor a’r Cabinet.

Rhaglen Waith

Yn unol â pharagraff 12.1 (Rhan 4) Cyfansoddiad y Cyngor, rhaid i'r Cabinet baratoi a chyhoeddi ei raglen waith.  Bydd Rhaglen Waith y Cabinet ar gyfer 2023-2024   hon yn cael ei diweddaru a'i chyflwyno i'r Cabinet i'w chymeradwyo bob 3 mis yn ystod y Flwyddyn Fwrdeistrefol.