Skip to main content

Monitro Gwaith Cyflawni ein Blaenoriaethau

Pam rydyn ni'n monitro ein Cynnydd

Mae monitro ein cynnydd yn ein helpu ni i olrhain sut rydyn ni'n cyflawni'r tair prif flaenoriaeth sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol 'Gwneud Gwahaniaeth'. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn gwirio bod y blaenoriaethau yma'n sicrhau deilliannau gwell i ddefnyddwyr ein gwasanaethau, trigolion a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf.  Mae'r broses yma'n yn ein helpu ni i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'n cynlluniau a sicrhau ein bod ni'n cadw ar y trywydd iawn.  Rydyn ni hefyd yn monitro'r cynlluniau sydd ar waith ym mhob un o’n gwasanaethau.  Mae monitro ein cyflawniad ar bob lefel yn y Cyngor yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • olrhain ein cynnydd dros amser
  • pennu'r gwasanaethau hynny sydd yn gwneud yn dda a/neu’r gwasanaethau hynny sydd angen cymorth
  • rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Gynghorwyr er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau sydd ganddyn nhw i'w gwneud
  • bod yn wrthrychol am ein cyflawniad ein hunain a gosod targedau mwy heriol
  • gyrru gwelliannau yn eu blaenau neu ddatblygu gwasanaethau
  • rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar drigolion, partneriaid a phobl eraill sydd â diddordeb er mwyn iddyn nhw weld ein cynnydd drostyn nhw eu hunain
  • rhoi tawelwch meddwl i’n Rheoleiddwyr Annibynnol
  • sicrhau ein bod ni’n cynnig gwerth am arian 
  • darparu tystiolaeth ar gyfer ein Hunanasesiad o Gyflawniad y Cyngor

Sut rydyn ni'n monitro ein cynnydd

Mae camau gweithredu, mesurau a thargedau manwl i gyflawni blaenoriaethau'r Cyngor wedi'u nodi mewn Cynlluniau Blaenoriaeth blynyddol sy'n cael eu cytuno gan Gynghorwyr ac yn cael eu gweithredu o'r 1 Ebrill bob blwyddyn. 

Ochr yn ochr â'n cynnydd o ran cyrraedd ein targedau rydyn ni hefyd yn defnyddio gwybodaeth arall i fonitro ac adolygu ein cyflawniad. Mae hyn yn cynnwys defnyddio adborth uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ymatebion i achlysuron a gwasanaethau sy'n ymgysylltu â'n trigolion a'n cymunedau, ymholiadau trwy sianeli Cyfryngau Cymdeithasol a hefyd adborth gan Reoleiddwyr Annibynnol.

Pryd rydyn ni’n cynnal gwaith monitro

Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn rheoli cynnydd eu gwasanaethau yn barhaus ac mae'r Cynlluniau Blaenoriaeth hefyd yn cael eu monitro a'u craffu gan Gynghorwyr bob tri mis yn rhan o Adroddiadau Cyflawniad chwarterol i'r Cabinet.  Mae'r Adroddiadau Cyflawniad yma hefyd yn cael eu trafod gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol ynghyd â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac yn ffurfio rhan o adroddiadau Hunanasesiad o Gyflawniad y Cyngor.

Trafododd y Cabinet Adroddiad Cyflawniad Chwarter 3 yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth 2023.

Mae Adroddiadau Cyflawniad Chwarterol blaenorol i'r Cabinet i'w gweld isod:

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2022/23 - Cabinet- 21 Tachwedd 2022

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2022/23 - Cabinet - 26 Medi 2022

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 4 2021/22 - Cabinet - 18 Gorffennaf 2022

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 3 2021/22 - Cabinet - 21 Mawrth 2022

-Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2021/22 - Cabinet - 15 Tachwedd 2021

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2021/22 - Cabinet - 21 Medi 2021

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 4 2020/21 - Cabinet - 20 Gorffennaf 2021

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 3 2020/21 - Cabinet - 25 Mawrth 2021

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2020/21 - Cabinet - 17 Tachwedd 2020

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2020/21 - Cabinet - 24 Medi 2020

 

Adrodd ar y Blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn Nghynllun Corfforaethol cyntaf y Cyngor 'Y Ffordd Ymlaen'  2016-2020

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad: cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk

 

Diwygiwyd y dudalen ym mis Mawrth 2023