Skip to main content

Archwilio a Rheoleiddio'r Cyngor

Adroddiadau o'n Rheolyddwyr Annibynnol

Mae cyrff rheoleiddio annibynnol yn archwilio, arolygu, adolygu ac yn adrodd ar y Cyngor a'i wasanaethau er mwyn sicrhau bod trigolion yn cael gwerth eu harian ac yn derbyn y gwasanaethau gorau gan y Cyngor.  Mae'r cyrff yma'n annibynnol o'r Cyngor. Weithiau, cyfeirir atyn nhw'n 'rheolyddwyr'.

Mae'r Rheoleiddwyr hefyd yn rhoi sicrwydd i Gynghorwyr a thrigolion bod y Cyngor yn gwella ac yn hyrwyddo gwelliant pellach gan gynnwys Rhaglen Archwilio flynyddol.  Maen nhw'n dwyn y Cyngor i gyfrif pan nad yw pethau'n mynd yn dda neu ddim yn mynd yn ôl y cynllun. Mae'r Rheoleiddwyr hefyd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y llywodraeth i'w helpu i lunio strategaethau a sicrhau gwasanaethau gwell.

Y prif gyrff rheoleiddio ar gyfer ein gwasanaethau yw:

Archwilio Cymru

Mae Archwilio Cymru'n cynnwys dau endid cyfreithiol, sef Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

  • Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn cyflwyno adroddiadau ar gyrff cyhoeddus Cymru.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol.

Mae tri nod gan Archwiliad Cymru:

- Rhoi sicrhad i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda.

- Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion y bobl.

- Ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.

Yn ddiweddar, mae Archwilio Cymru wedi cryfhau ei ddull o adolygu i ba raddau mae Cyrff Cyhoeddus yn gweithredu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel mater o drefn, mae pob adolygiad sy'n cael ei gynnal gan Archwilio Cymru yn ystyried i ba raddau mae'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn cael ei chymhwyso.

Arolygiaeth Gofal Cymru 

Dyma'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal plant yng Nghymru. O warchodwyr plant, i feithrinfeydd, ac i gartrefi gofal i'r henoed, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gyfrifol am gofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Cafodd llythyr adolygu cyflawniad Awdurdod Lleol diweddaraf AGC ar gyfer y Cyngor yma ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2021.Yn dilyn hynny, cafodd ei drafod gan Bwyllgor Craffu ar Faterion Iechyd a Lles a Phwyllgor Craffu ar Faterion Plant a Phobl Ifainc ym mis Gorffennaf 2021. 

Arolygiaeth Ei Fawrhydi o Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN)

Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifainc, addysg a hyfforddiant i athrawon, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Mae Estyn hefyd yn arolygu Consortiwm Canolbarth y De ac ysgolion yn yr ardal. Ewch i www.estyn.gov.uk i fwrw golwg ar adroddiadau arolygu unigol y mae Estyn wedi'u cyhoeddi.

Rydyn ni hefyd yn derbyn adborth ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â’r ffordd rydyn ni'n rheoli gofynion deddfwriaethol ac amrywiol o ran y Gymraeg ac o ran Cydraddoldeb. Mae’r adborth gan y Comisiynwyr yn seiliedig ar adroddiadau blynyddol sy’n canolbwyntio ar sut mae'r sefydliad corfforaethol a'r gwasanaeth wedi cymhwyso’r polisïau a’r safonau. Yn achos y Gymraeg, mae'r adroddiadau'n edrych ar ein cydymffurfiad â rhai dyletswyddau statudol.

Comisiynydd y Gymraeg

Prif nod statudol Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Gweledigaeth y Comisiynydd yw Cymru lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae’r Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n ystyried adborth holl Gynghorau Cymru. Mae adroddiad 2021/22 i’w weld yma.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gymraeg yn ein hadroddiadau ar dudalennau gwe ein Gwasanaethau Cymraeg.   

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae'r trefniadau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wahanol i drefniadau Rheoleiddwyr eraill. Yn ogystal â bod yn Rheoleiddiwr, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd fandad i herio gwahaniaethu, ac i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol. Mae ei ddyletswyddau wedi’u nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’r Comisiwn yn cynnal ymchwiliadau ac yn casglu tystiolaeth ar raddfa fawr i nodi anghydraddoldebau sydd ar waith mewn sectorau gwahanol, ac unrhyw anghydraddoldebau o ran arferion ledled y DU, ac mae'n nodi hyn mewn adroddiad blynyddol. Mae adroddiad blynyddol 2021/22 yn cynnwys ei waith yng Nghymru.  Er nad oes Comisiynydd Cymru ar gyfer y Comisiwn Hawliau Dynol, mae Comisiwn Cymru yn bodoli.

Pan fydd y Rheoleiddwyr wedi cwblhau adolygiad, archwiliad neu arolygiad, bydd y canfyddiadau'n cael eu nodi mewn adroddiad. Mae'r adroddiad hwnnw, ar gael i'r cyhoedd ar wefan y Rheoleiddiwr perthnasol fel bod modd i bawb weld eu canfyddiadau. Mae'r tryloywder yma'n helpu pobl i ddeall rhagor am y Cyngor a'i wasanaethau a hefyd yn arwain at well penderfyniadau a chanlyniadau i drigolion. Mae hefyd yn rhan o Hunanasesiad Blynyddol y Cyngor.

Pan fydd adroddiad archwilio neu arolygu ar gael, mae swyddogion yn ei ystyried yn ofalus. Caiff canfyddiadau ac argymhellion o adroddiadau cenedlaethol a lleol eu defnyddio i herio a chryfhau ein trefniadau neu lywio gwelliannau i wasanaethau'r Cyngor. Mae adroddiadau'r Rheoleiddwyr a'n hystyriaethau a'n hymatebion yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu ac ar gael i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Isod, mae modd i chi weld yr adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Rheolyddwyr ers mis Ionawr 2016.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad ar cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk

 

Adroddiad Rheoleiddio

Pwyllgor

Statws yr Adroddiad Cenedlaethol/Lleol

Corff Rheoleiddio

Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 4ydd Medi, 2023 

 Lleol Archwilio Cymru 
Rhag-graffu: Adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Cabinet - Dydd Llun, 17eg Gorffennaf, 2023 

 

Lleol   Estyn
Crynodeb Archwilio Blynyddol 2022

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 15fed Mawrth, 2023

Lleol Archwilio Cymru
Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 25ain Ionawr 2023 Cenedlaethol Archwilio Cymru
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio? Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 25ain Ionawr 2023 Cenedlaethol Archwilio Cymru
Adolygiad Asesu Risg a Sicrwydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 7 Rhag 2022 Lleol Archwilio Cymru
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg – Bwrdd y Rhaglen Arweinyddiaeth Drawsnewidiol – Adolygiad Llywodraethu Sylfaenol Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 7 Rhag 2022 Cenedlaethol Archwilio Cymru
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned - 24ain Hydref 2022 Cenedlaethol Archwilio Cymru
Llamu Ymlaen – Rheoli Asedau'n Strategol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 10fed Hyfred 2022 Lleol Archwilio Cymru

Llamu Ymlaen – Y Gweithlu

Pwllgor Trosolwg a Chraffu 10fed Hydref 2022 Lleol Archwilio Cymru

Archwilio Cymru- Crynodeb Archwiliad Blynyddol 2021

Mae hyn yn cynnwys yr tri ar ddeg adroddiau canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cyngor 19 Ionawr 22 Lleol Archwilio Cymru
Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Trosolwg o'r Cynnydd Hyd Yma Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru

Caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yn ystod pandemig COVID-19

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru
Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru
Gweithredu rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru
Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Lleol Archwilio Cymru
Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru

Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol - Effaith COVID-19, Adferiad a Heriau yn y Dyfodo

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru
Adroddiad blynyddol Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) 2019-20 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru / Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol o Archwiliadau Sicrwydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru 
Gadewch i mi ffynnu’ Adolygiad cenedlaethol o gymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a’r trefniadau trosglwyddo i blant anabl yng Nghymru Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru 
Yn ôl eich doethineb - Gwasanaethau Dewisol Llywodraeth Leo Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru
Adfywio Canol Trefi yng Nghymru Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Cenedlaethol Archwilio Cymru

Archwiliad o asesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o berfformiad 2020-21

 Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2022  Lleol  Archwilio Cymru 

Archwilio Cymru- Crynodeb Archwiliad Blynyddol 2020 

Mae hyn yn cynnwys yr tri ar ddeg adroddiau canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cyngor 10 Mawrth 21 Lleol  Archwilio Cymru 
Cyfrifon 2019-20 y Cyngor 12 Mai 21 Lleol Archwilio Cymru 
Archwiliad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 12 Mai 21 Lleol Archwilio Cymru 
Archwiliad o Gynllun Gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2020-21 12 Mai 21 Lleol Archwilio Cymru 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf- Asesiad o Gynaliadwyedd Ariannol (Mawrth 2020) 12 Mai 21 Lleol Archwilio Cymru 
Llythyr adolygu perfformiad blynyddol awdurdodau Lleol Ebrill 2019- Mawrth 2020 12 Mai 21 Lleol AGC
Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i Covid-19 12 Mai 21 Lleol Estyn
Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20 (Hydref 2020) 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 
Y ‘drws blaen’ I ofal cymdeithasol I oedolion Medi 2019 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 
Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Hydref 2019 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 
Cynnydd o ran rhoi’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith Tachwedd 2019 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 
Cysgu Allan yng Nghymru- Problem I Bawb; Cyfrifoldeb I Neb 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 
Deddfu gwell:yr her o roi deddfwriaeth ar waith 12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 

Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol

12 Mai 21 Cenedlaethol Archwilio Cymru 

Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o Gynllun Gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2020-21

  Lleol  Archwilio Cymru 
Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2019-20   Lleol Archwilio Cymru
Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o Gynllun Gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2019-20   Lleol Swyddfa Archwilio Cymru

Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2018-19

 

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2018-19

Mae hyn yn cynnwys yr deuddeg adroddiau canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru:

Cyngor 18 Medi 19

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Archwilia Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol- Hydref 19 20 Ionawr 20 Lleol Swyddfa Archwilio Cymru
Cyflawni â Llai Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd Adolygiad Dilynol- Hydref 19 20 Ionawr 20  Lleol Swyddfa Archwilio Cymru

Adolygiad dilynol o drefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant- Hydref 19

20 Ionawr 20  Lleol Swyddfa Archwilio Cymru
Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 20 Ionawr 20  Lleol  AGC
Llythyr adolygu perfformiad blynyddol awdurdodau Lleol 2018/19: Cyngor Bwrdeistref Siriol Rhondda Cynon Taf 20 Ionawr 20 Lleol   AGC
Caffael Capasiti Trin Gwastraff Gweddilliol a Gwastraff Bwyd- Hydref 2018 20 Ionawr 20 Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol- Hydref 2018 20 Ionawr 20  Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Rheoli Gwastraff yng Nghymru- Atal Gwastraff- Mawrth 2019 20 Ionawr 20  Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig- Tachwedd 2018 20 Ionawr 20  Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Darparu Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig: Trosglwyddo Asedau Cymunedol- Tachwedd 2018 20 Ionawr 20  Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Aeddfedrwydd llywodraeth leol o ran y defnydd o ddata- Rhagfyr 2018 20 Ionawr 20   Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru
Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru- Mehefin 2019 20 Ionawr 20   Cenedlaethol Swyddfa Achwilio Cymru 

Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o Gynllun Gwella 2018-19 Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf- Tachwedd 18

 

 Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Tystysgrif Cydymffurfiaeth- Archwiliad o Asesiad o Berfformiad 2017-18 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf- Hydref 18

 

 Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru- 2017-18

Mae hyn yn cynnwys yr deg adroddiadau canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru:

Cyngor 19 Medi 18

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Trosolwg a Chraffu: Addas ar gyfer y dyfodol?- Gorffennaf 18

22 Hydref 18

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Cynllunio Arbedion

13 Medi 17

 Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Cynllunio Arbedion mewn Cynghorau yng Nghymru- Mehefin 17

Cyngor 21 Mehefin 17

 Cenedlaethol

 

Comisiynu gwasanaethau llety ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn strategol - Mai 18

22 Hydref 18

 

 

Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus - Ebrill 18

22 Hydref 18

Cenedlaethol

Swyddfa Archwilio Cymru

Addasiadau Tai - Chwefror 18

22 Hydref 18

Cenedlaethol

 

Swyddfa Archwilio Cymru

Sut mae Llywodraeth Leol yn rheoli galw – Digartrefedd - Ionawr 18

Chwefror 18

Cenedlaethol

Swyddfa Archwilio Cymru

 

Adroddiadau Ariannol Llywodraethau Lleol ar gyfer 2016-17 - Rhagfyr 17

 

Cenedlaethol

 

Swyddfa Archwilio Cymru

Caffael Cyhoeddus yng Nghymru - Hydref 17

22 Hydref 18

Cenedlaethol

 

Swyddfa Archwilio Cymru

Llywodraethu da wrth benderfynu ar newidiadau sylweddol mewn gwasanaethau – Crynodeb
Cenedlaethol
 - Hydref 17

 

Cabinet 9th March 18

Cenedlaethol

 

Swyddfa Archwilio Cymru

Tystysgrif Cydymffurfiaeth – Archwiliad o Gynllun Gwella 2017-18 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf -Tachwedd 17

 

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru – Mehefin 2017

Cyngor   21 Mehefin 17

Lleol

Swyddfa Archwilio Cymru

 

Diwygiwyd y dudalen ym mis Mawrth 2023